Digwyddiad Lansio Ceredigion Oed Gyfeillgar
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal digwyddiad i nodi lansiad Ceredigion Oed Gyfeillgar ar Ddydd Llun 30 Medi 2024.
Menter Sefydliad Iechyd y Byd yw Cymunedau Oed Gyfeillgar: lleoedd lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi a galluogi pawb i heneiddio'n dda.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 09:00 a 16:00 yn Siambrau'r Cyngor, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA. Bydd siaradwyr gwadd, panel holi ac ateb a grwpiau cymunedol yn arddangos y gwaith da sydd eisoes yn digwydd ar draws Ceredigion.
Dywedodd Alun Williams, Aelod Cabinet Ceredigion dros Llesiant Gydol Oes: “Mae’r fenter hon yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymrwymiad i greu amgylchedd cynhwysol a chefnogol i’n trigolion hŷn. Ein nod yw sicrhau bod Ceredigion yn fan lle gall pobl o bob oed ffynnu, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a chymryd rhan weithredol ym mywyd y gymuned.
“Mae menter Ceredigion sy’n Gyfeillgar i Oed yn dyst i’n hymrwymiad i wella ansawdd bywyd ein poblogaeth hŷn. Drwy feithrin cymunedau sy’n gyfeillgar i oed, rydym yn mynd i’r afael â’r anghenion a’r heriau unigryw y mae oedolion hŷn yn eu hwynebu, gan sicrhau bod ganddynt fynediad at wasanaethau hanfodol, cyfleoedd cymdeithasol, ac amgylcheddau diogel a hygyrch.”
Os oes gennych ddiddordeb yn eich cymuned a hoffech gyfarfod a rhwydweithio gyda chynrychiolwyr dinasyddion o'r un anian ac arweinwyr grwpiau cymunedol, dewch draw.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â thîm y Gofalwyr a Chymorth Cymunedol drwy ebostio clic@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 574 200.