Skip to main content

Ceredigion County Council website

Dewch i ddathlu diwylliant yn Theatr Felinfach yr hydref a'r gaeaf hwn

Dewch i fwynhau rhaglen ddiwylliannol lawn yn Theatr Felinfach dros y misoedd nesaf wrth iddynt ddatgelu eu rhaglen dros yr hydref a’r gaeaf.

Cewch gyfle i glywed y storïwr Michael Harvey a’i gwmni newydd sbon Bando yn perfformio “Y Llyn” ar 21 Medi. Mae’r perfformiad wedi ei  ysbrydoligan chwedl Llyn y Fan Fach ac yn cael ei gyflwyno yn y Gymraeg a’r Saesneg, ochr yn ochr, mewn ffordd hollol newydd.  

Ymlaen at 12 Hydref a’r digrifwr Elis James fydd yn serennu ar y llwyfan gyda stand-yp Cymraeg newydd sbon yn sôn am ei brofiadau fel Cymro yn Llundain, ei blentyndod yn Sir Gaerfyrddin a llawer mwy.

Diwedd mis Hydref tro Ysgol Berfformio Felinfach fydd hi gyda’r aelodau ifanc yn perfformio sioe gerdd Mimosa gan Tim Baker a Dyfan Jones. Dyma stori ein cyndeidiau a ymfudodd i Dde America ar gliper te y Mimosa o ddociau Lerpwl yn 1865 i le o’r enw Patagonia am fywyd gwell. Mae’r sioe yn brosiect ar y cyd â Gwasanaeth Cerdd Ceredigion a chynhelir y perfformiadau ar 30 Hydref a 1 Tachwedd.

Mae’r Theatr yn edrych ymlaen at groesawu Theatr Genedlaethol Cymru yn ôl y gaeaf hwn gyda pherfformiad o “Dawns y Ceirw” ar 26 Tachwedd am 10:30 a 1:30. Wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Casi Wyn (Bardd Plant Cymru 2022-23), bydd y sioe newydd swynol hon yn dod â hud, cerddoriaeth a dawns i gynulleidfaoedd ifanc. Trip ysgol perffaith neu beth am ymweld gyda’r teulu  - ar gyfer plant 5+.

I gloi’r arlwy bydd Panto Nadolig Cymraeg blynyddol Theatr Felinfach yn cael ei gynnal rhwng 7 a 14 Rhagfyr. Dewch i ymuno yn y dwli, sbri a hud y Pantomeim pan bydd criw Dyffryn Aeron yn cwrdd â’r ymgyrchydd brwd Cranogwen – ond beth fydd cynlluniau’r Dynion Drwg eleni!? Gallwch brynu tocynnau o 18 Medi. 

Eisiau bod yn rhan o’r Panto Nadolig? Os mai perfformio yw eich dileit neu os ydych yn mwynhau cynorthwyo cefn llwyfan i symud set neu hyd yn oed creu gwisgoedd hoffai’r Theatr  glywed gennych. Bydd yr ymarferion yn cychwyn ar 1 Tachwedd.

Am docynnau a gwybodaeth pellach ewch i wefan Theatr Felinfach theatrfelinfach.cymru neu cysylltwch a’r Swyddfa Docynnau drwy ffonio 01570 470697 neu ebostio theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk

Gallwch hefyd edrych ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol; Facebook a YouTube drwy chwilio am Theatr Felinfach neu @theatrfelinfach ar X ac Instagram.