Dathlu entrepreneuriaid ifanc Ceredigion: y lle delfrydol i fyw a llwyddo
Ar faes y Sioe Frenhinol ar brynhawn ddydd Mercher 24 Gorffennaf, roedd panel o entrepreneuriaid ifanc o Geredigion yn trafod eu huchelgeisiau o dan arweiniad y Cadeirydd Endaf Griffiths.
Pwrpas y digwyddiad oedd hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngheredigion, yn enwedig i bobl ifanc uchelgeisiol. Yn bresennol, roedd cynrychiolwyr o fusnesau sydd wedi derbyn cymorth drwy Raglen ARFOR, Cronfa Ffyniant Cyffredin y Deyrnas Unedig (CFfGDU) a Chronfa Cynnal y Cardi yng Ngheredigion.
Bu’r panel yn trafod eu siwrnai unigol wrth fentro i fyd busnes a’u llwyddiannau a’u datblygiadau, yn ogystal â thrafod rhai o’r heriau maent wedi wynebu ar eu taith. Aelodau'r panel oedd Rhys Jones o Cattle Strength, Anwen James o Ani-Bendod a Steff Evans o Delineate a Dreigiau Bach; lle mae pob un ohonynt wedi derbyn cefnogaeth gan Gronfa Cymunedau Mentrus. Yn bresennol hefyd oedd Owen McConochie o Lloyds Dairy sydd wedi llwyddo i gael cefnogaeth CFfGDU drwy Gronfa cefnogi busnes Cynnal y Cardi.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Ceredigion yn Sir hyderus a deniadol lle mae llawer yn ffynnu ac yn datblygu wrth sefydlu busnesau llewyrchus a llwyddiannus. Mae cwmnïau o Geredigion wedi manteisio ar nifer o ffynonellau arian a weinyddir gan y Cyngor Sir, rhwng ein prosiectau CFfGDU, ARFOR: Cymunedau Medrus, Trawsnewid Trefi a phrosiectau Cronfeydd Cynnal y Cardi. Manteisiwch ar y cyfleoedd hyn a dewch i ni ddathlu’r hyn sy’n gwneud ein Sir yn lle mor arbennig: y lle delfrydol i fyw a llwyddo.”
Am wybodaeth am y cefnogaeth yng Ngheredigion ewch i www.ceredigion.gov.uk/busnes/cyllid-a-grantiau/