Skip to main content

Ceredigion County Council website

Dangosfwrdd newydd i fonitro maethynnau yn trawsnewid y gwaith o ddiogelu Afon Teifi

Dan arweiniad Cyngor Sir Ceredigion ac mewn cydweithrediad â Bwrdd Rheoli Maethynnau Gorllewin Cymru, mae prosiect monitro Ansawdd Dŵr afon Teifi wedi dadorchuddio’i ddangosfwrdd arloesol ar gyfer rheoli maethynnau. Dyma’r un cyntaf o’i fath ac mae nawr yn fyw ar wefan y Cyngor.

Mae’r platfform dyfeisgar hwn yn defnyddio technoleg arloesol i fynd i'r afael â heriau ynghylch ansawdd dŵr yn nalgylch Afon Teifi.

Mae’r dangosfwrdd yn integreiddio data o synwyryddion a osodwyd mewn mannau allweddol ar hyd afon Teifi a’r is-afonydd iddi. Mae’r synwyryddion hyn, gyda chymorth cysylltedd lloeren Lacuna - Low Earth Orbit - yn sicrhau y trosglwyddir data yn barhaus, hyd yn oed o fannau anghysbell. Maent yn cynnig cipolwg amserol a chyfredol i randdeiliaid ar y mesuryddion sy’n hanfodol i ansawdd dŵr, megis lefelau ffosffad ac amrywiadau yn uchder afonydd.

Mae synwyryddion amledd uchel Clearwater wedi bod yn hynod o wydn yn ystod y stormydd diweddar gan barhau i ddarparu data gwerthfawr hyd yn oed mewn amodau heriol. Yn ogystal â monitro ansawdd dŵr mae'r dangosfwrdd yn trosglwyddo lefelau uchder yr afonydd yn ystod tywydd eithafol, gan gynnig cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn sy'n fuddiol ar gyfer rheoli maethynnau, rheoli llifogydd, a gwasanaethau eraill y Cyngor.

Bu’r cydweithio rhwng sefydliadau a phobl yn allweddol wrth ddarparu'r dangosfwrdd. Mae Gwyddonwyr o’r Gymuned yn chwarae rôl bwysig drwy fonitro ar lawr gwlad a chyfrannu data ychwanegol drwy offer llaw megis gwirwyr ffosffad a mesuryddion pH a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae’r gwaith maes hwn yn ategu’r wybodaeth a geir o’r synwyryddion gan gau bylchau mewn tystiolaeth a chyfoethogi’r data ar y dangosfwrdd.

Yn ogystal â dangosfwrdd y synwyryddion, mae Cyngor Sir Ceredigion hefyd wedi datblygu meddalwedd unigryw ar gyfer casglu data o’r apiau symudol a ddefnyddir gan Wyddonwyr o’r Gymuned allan yn y maes. Mae hon hefyd ar gael bellach ar wefan y Cyngor a bydd yn galluogi defnyddwyr i weld adroddiadau cyfredol y Gwyddonwyr o’r Gymuned, a'u dadansoddi.

Caiff y feddalwedd ei gwella o hyd wrth i'r tîm gyflwyno rhagor o synwyryddion dros yr wythnosau nesaf i ddal mwy o ddarlleniadau ac i gysylltu â’r lloeren. 

Gwnaeth y Cynghorydd Clive Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio a Chadeirydd Bwrdd Rheoli Maethynnau Teifi, dynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio fel tîm: “Mae lansio'r dangosfwrdd hwn yn brawf o bŵer cydweithio. Drwy gyfuno uwch-dechnoleg lloeren Lacuna, arbenigedd ein partneriaid, ac ymdrechion diwyd y Gwyddonwyr o’r Gymuned, rydym yn creu datrysiad unigryw i ddiogelu ein hafonydd a'n hecosystemau. Dyma arloesedd ar waith gan ddod â budd ymarferol i’n hamgylchedd a’n cymunedau.”

Mae'r dangosfwrdd yn rhan greiddiol o Brosiect Monitro Maethynnau Teifi sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i weinyddu gan dîm Cynnal y Cardi yng Nghyngor Sir Ceredigion, a’i gyflenwi mewn cydweithrediad â’r Bwrdd Rheoli Maethynnau a’i randdeiliaid.  Fe'i cefnogir gan brosiect Sbarduno Cysylltedd Gwledig (Rural Connectivity Accelerator) y mae'r Cyngor yn rhan ohono ac sy’n cael ei ariannu gan Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU.

Roedd Syr Chris Bryant AS, y Gweinidog Gwladol dros Ddiogelu Data a Thelathrebu wedi canmol y prosiect hefyd: “Fel y dangosir yma yng Ngheredigion, gall technoleg drawsnewid nid yn unig ein bywydau ond yr ecosystemau o'n cwmpas hefyd.

“Drwy gyfuno technoleg cysylltedd gydag ymdrechion cymunedol anhygoel, gall prosiectau cynaliadwyedd ddwyn ffrwyth. Mae’r cydweithredu yma yn enghraifft wych o sut y gall uwch-dechnoleg cyfathrebu lloeren gefnogi datrysiadau arloesol ar gyfer monitro’r amgylchedd gan helpu i amddiffyn afonydd Prydain am genedlaethau i ddod.”

Ymunwch â’r grŵp rhanddeiliaid neu bori ar gynnwys y dangosfwrdd a’r asedau eraill o ran maethynnau a hynny drwy fynd i dudalen Maethynnau ar Afon Teifi - Ceredigion County Council.