Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cystadleuaeth ciciau pêl-droed i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024

Cynhaliwyd Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru eleni rhwng 23 a 30 Mehefin 2024. Roedd yn gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth Gwaith Ieuenctid ledled Cymru.

Amy Jenkins, Gweithwraig Ieuenctid gyda Cyngor Sir Ceredigion yn cyflwyno’ wobr i enillydd y gystadleuaeth, Katie Whiteway.Bu Tîm Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu Ceredigion yn dathlu gydag amrywiaeth o weithgareddau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys lansio cystadleuaeth ciciau pêl-droed i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n byw yng Ngheredigion. 
 
Derbynwyd dros 110 cais fel rhan o’r gystadleuaeth, gan bobl ifanc yn rhoi tro i herio sgôr Amy Jenkins, Gweithwraig Ieuenctid, sydd hefyd yn chwarae pêl-droed ac yn gapten ar dîm pêl-droed menywod Aberystwyth. Yn cipio’r wobr am y nifer uchaf o giciau oedd Katie Whiteway, disgybl Ysgol Gyfun Penweddig. Llwyddodd Kate i wneud dros 500 o giciau mewn tua dri munud!
 
I ddathlu eu llwyddiant, trefnodd Amy bod yr enillydd yn derbyn gwobr arbennig sef pêl-droed wedi’i harwyddo gan chwaraewyr o dîm pêl-droed dynion a menywod Aberystwyth. Llongyfarchiadau, Katie!
 
Yn arwain y gystadleuaeth, dywedodd Amy, Gweithwraig Ieuenctid: “Yn aml caiff pêl-droed a chwaraeon yn gyffredinol eu defnyddio fel ffyrdd o ymgysylltu pobl ifanc mewn Gwaith Ieuenctid. Mae wedi bod braf cynnal y gystadleuaeth sydd wedi dangos yr holl dalent sy’n perthyn i bobl ifanc Ceredigion. Roedd y gystadleuaeth yn llawer o hwyl a hoffem longyfarch Katie ar ennill eleni, wrth hefyd ddiolch i dimau pêl-droed dynion a menywod Aberystwyth am gyfrannu at y wobr.”

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Gwasanaeth Ysgolion: “Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn gyfle gwych i dynnu sylw at y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud i gefnogi ac ymgysylltu â’n pobl ifanc. Mae’r gystadleuaeth cic bêl-droed yng Ngheredigion yn enghraifft wych o sut y gall chwaraeon uno ein cymunedau a dangos doniau ein hieuenctid. Llongyfarchiadau i Katie am ei champ arbennig, a diolch o galon i Amy Jenkins a Chlwb Pêl-droed Aberystwyth am eu cefnogaeth a’u hymroddiad. Mae mentrau fel hyn nid yn unig yn meithrin ymdeimlad o gymuned ond hefyd yn ysbrydoli ein pobl ifanc i ymdrechu am ragoriaeth.”
 
Da iawn i bawb a wnaeth ymgeisio!