Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cynnydd ar gynllun adfywio eiconig yn Aberystwyth

Ar ddiwedd 2021, cadarnhaodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod Cyngor Sir Ceredigion wedi llwyddo yn y cais o £10.8 miliwn am gyllid o’r Gronfa Ffyniant Bro (Rownd 1) i adfywio rhan allweddol o Aberystwyth er mwyn hybu’r dref ac economi’r sir.

Ers hynny, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda'i bartneriaid i ddatblygu'r cynlluniau adfywio i adeiladu ymhellach ar amlygrwydd Aberystwyth i fod yn "Gyrchfan Ddenu" nid yn unig ar gyfer twristiaeth gwerth uchel, ond hefyd i gryfhau ei safle fel cyrchfan i fyw, gweithio ac astudio.

Mae’r hinsawdd economaidd wedi newid yn sylweddol ers cymeradwyo’r cais yn 2021, a bu’n rhaid ail-lunio’r weledigaeth a’r cynlluniau gwreiddiol. Fodd bynnag, roedd modd arbed y gwaith ar yr Hen Goleg a’r Promenâd ac mae gwaith gwella sylweddol yn cael ei wneud ar hyn o bryd:

Ychwanegu effaith i brosiect yr Hen Goleg: Gan weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth, bydd y prosiect hwn yn ychwanegu gwerth at brosiect yr Hen Goleg, sydd â’r nod o ddod â bywyd newydd i’r adeilad a’i drawsnewid yn ganolfan ddiwylliannol fywiog gyda chyfleusterau rhagorol ar gyfer y brifysgol, y gymuned leol, ac ymwelwyr â'r ardal.

Mae Cyllid Ffyniant Bro wedi sicrhau bod hen floc swyddfeydd Y Cambria wedi dod i feddiant y Brifysgol, a bydd hyn yn cael ei integreiddio i Brosiect ehangach yr Hen Goleg yn y dyfodol a bydd bron yn dyblu darpariaeth llety 4* y prosiect. Bydd Cyllid Ffyniant Bro yn cael ei ddefnyddio i gwblhau rhai o’r 39 ystafell wely sy’n cael eu hadeiladu ym mhrif adeilad yr Hen Goleg ynghyd â chreu orielau a mannau arddangos a fydd yn ychwanegu gwerth at brofiad yr ymwelydd.

Disgwylir i brosiect yr Hen Goleg gael ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2025.

Prosiect Promenâd wedi'i adfywio: Bydd gwelliannau'n cael eu gwneud i asedau’r cerddwyr a’r seiclwyr sydd eisoes yn bodoli ar hyd y Prom deheuol, o amgylch yr hen harbwr ac ymlaen i Heol Minafon. Bydd y datblygiad hwn yn cynnig rhagor o gyfleoedd i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd elwa o deithio llesol ar ffurf llwybrau beicio a cherdded oddi ar y ffordd sy’n fwy diogel. Bydd gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i balmentydd ac arwynebau ffyrdd yn Stryd y Brenin gyda gwell mynediad i gefn yr Hen Goleg a thir y Castell. Bydd goleuadau newydd ar hyd y Promenâd cyfan yn galluogi gwell defnydd o'r cyfleuster hwn drwy gydol y flwyddyn.

Mae nifer o'r goleuadau stryd ar y Prom wedi cyrraedd diwedd eu hoes weithredol. Am resymau diogelwch, bydd goleuadau dros dro yn cael eu gosod yn fuan a bydd yn cael ei ddilyn gyda gosodiadau parhaol mwy priodol pan fydd y gwaith ar y Prom yn cychwyn yr hydref hwn.

Bydd hyn yn helpu’r Promenâd i ddod yn ased i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd ei fwynhau a rhoi’r dref ar y map trwy gael atyniad hygyrch a chynaliadwy i’r dref.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod y Cabinet gyda chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio “Fel Cyngor rydym yn dymuno cyflawni cynlluniau llwyddiannus ar gyfer yr holl gyllid y buom yn gweithio’n galed i’w sicrhau i hybu ein heconomi a’n cyfleoedd. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i wneud yr hyn a allwn i wireddu buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith diwylliannol, seilwaith treftadaeth a seilwaith lles ar draws y sir gyfan – ac mae’r cynllun hwn yn Aberystwyth yn flaenoriaeth enfawr i ni ei chyflawni.

“Mae’r economi wedi newid yn sylweddol fodd bynnag, ac mae union fanylion yr hyn y gallwn ei gyflawni yn y pen draw yn cael ei ddylanwadu gan gostau cynyddol a sefydlogrwydd y sector preifat. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’n rhanddeiliaid, gan gynnwys y gymuned leol i edrych ar ffyrdd o barhau i yrru’r buddsoddiad yn ei flaen er mwyn creu swyddi newydd, cyfleoedd, sgiliau, hamdden, a seilwaith newydd i’r dref.”

Bydd y Cyngor yn parhau i ymgysylltu'n agos â'r dref a'i thrigolion wrth i'r cynlluniau cyffrous hyn i adfywio'r dref ddatblygu.