Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cynllun y Cyngor yn darparu buddion ychwanegol i gymunedau Ceredigion

Mae Logan McFarlane, un o breswylwyr Ceredigion wedi cael gwaith cyflogedig yn dilyn ei brentisiaeth gyda LEB Construction.

Roedd cytundeb Cyngor Sir Ceredigion gyda LEB Construction i adnewyddu Ysgol Gynradd wedi darparu buddion ychwanegol i breswylwyr Ceredigion, gyda nifer o breswylwyr yn cael gwaith cyflogedig, gan gynnwys Logan. 

Ar ôl cwblhau ei Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Galwedigaethau Coed, cynigwyd swydd i Logan gyda LEB Construction fel Prentis Saer Coed. Mae Logan hefyd yn bwriadu cwblhau ei Phrentisiaeth Lefel 3 gyda’r busnes. Dywedodd: “Roeddwn ar y safle o'r dechrau i'r diwedd yn ystod prosiect adnewyddu Ysgol Gynradd Aberteifi. Mae bod yn rhan o’r prosiect hyn, wrth iddo esblygu ag ehangu, wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi ddatblygu sgiliau a phrofiadau amrywiol fel saer. Fe wnes i helpu trwsio to fflat a leininau wâl, fe wnes i hefyd gyflawni rhai tasgau fel architrafau a byrddau sgyrtin, a hyn i gyd o dan ofal fy ngoruchwyliwr Jamie.”

Yn ystod y cyfnod, cyfrannodd LEB Construction siec o £1000 i Fanciau Bwyd Aberystwyth ac Aberteifi a chyfrannu 450 o focsys siocled i blant Ysgol Gynradd Aberteifi a phrosiect Dechrau'n Deg Aberteifi. Ag yna dros dymor y Nadolig, cefnogodd LEB Construction sawl menter, gan gynnwys rhoi teganau a siocled i ffoaduriaid Wcráin, a bocsys a oedd yn cynnwys menig, sgarff a photeli dŵr poeth i drigolion bregus yng Ngheredigion a oedd yn derbyn prydau Nadolig am ddim yng Nghaffi Cartref Aberystwyth. Rhoddwyd teganau hefyd i'r Ward Plant yn Ysbyty Bronglais a rhoddwyd arian i gymunedau lleol brynu cypyrddau diffibriliwr AED.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddysgu Gydol Oes: "Rydym yn hynod o ddiolchgar am gyfraniadau hael LEB i gefnogi'r cymunedau lleol yng Ngheredigion wrth iddynt adnewyddu un o'n hysgolion ni yn y Sir.”

Dywedodd Luke Baker, Rheolwr Gyfarwyddwr LEB Construction Ltd: “Roedd LEB yn falch iawn o gael cyfle i gefnogi llawer o fentrau cymunedol teilwng yn ystod ein contract ac i allu cynnig cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl Ceredigion. Hoffai LEB barhau gyda’r gefnogaeth ac rydym wedi cytuno i gyd-weithio gyda Tîm Cymorth Cyflogaeth Ceredigion er mwyn cynnig profiadau lleoliad gwaith a chyfleoedd gwaith cyflogedig yn y dyfodol.”

Mae'r Cyngor yn awyddus i glywed gan unrhyw grwpiau, elusennau neu sefydliadau lleol a hoffai gael eu cynnwys yn ein 'rhestr ddymunol' i ddarparu buddion i’n cymunedau. Cysylltwch â Rhian.Owen@ceredigion.gov.uk am fwy o wybodaeth.