Mae dros 1,000 o bobl ifanc yng Ngheredigion wedi elwa o Gynllun Grantiau Bach Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o ehangu cyfleoedd Gwaith Ieuenctid cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.

Ym mis Medi 2021, nododd adroddiad terfynol Bwrdd Ieuenctid Dros Dro Cymru 14 argymhelliad i wella’r Cynnig Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Fel rhan o’r gwaith, mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid er mwyn cryfhau ein gwaith o gefnogi Argymhelliad 12, sy’n amlinellu dylai Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, ym mis Awst 2023, gwahoddwyd grwpiau a sefydliadau ieuenctid gwirfoddol yng Ngheredigion i wneud cais am hyd at £20,000 drwy Gynllun Grantiau Bach, i’w wario ar weithgarwch gwaith ieuenctid addas i ddatblygu prosiectau gwaith ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg ychwanegol i helpu i lenwi bylchau yn y flwyddyn 2023-24. Roedd y Cynllun Grantiau Bach yn annog grwpiau a sefydliadau i ystyried amrywiaeth o ddarpariaeth gwaith ieuenctid, gan gynnwys clybiau nos, darpariaeth chwaraeon, gwaith ieuenctid mewn ysgolion, a chyfleoedd i wirfoddoli trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellid defnyddio’r Cyllid hefyd i nodi a darparu cyfleoedd i annog defnydd o’r Gymraeg ymhlith staff a gwirfoddolwyr a datblygu eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn y lleoliad.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, roedd 11 cais wedi eu derbyn gyda chyfanswm o bron i £85,000, sy'n dangos ymrwymiad cymunedaul lleol i gynnig darpariaeth gwaith ieuenctid Cymraeg o safon uchel. Yn dilyn trafodaethau gan y panel dyfarnu, llwyddodd chwe chais i dderbyn cyfanswm o £20,000 i gefnogi prosiectau a gweithgareddau sy'n anelu at wella cyfleoedd gwaith ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yng Ngheredigion.

Amlygodd gwerthusiad diweddar o’r cynllun grantiau bach yn 2023-24 fod dros 1,000 o bobl ifanc wedi manteisio ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg o ganlyniad i ddefnydd o’r Cyllid hwn. Roedd y cyfleoedd yn cynnwys crefft, cerddoriaeth, dawns, theatr, gwaith ieuenctid digidol, ysgrifennu sgriptiau, barddoniaeth, addysg awyr agored, clybiau mewn ysgolion, digwyddiadau a mwy.

Dywedodd Lleucu Meinir o fudiad Plethu yn Llandysul: “Mi wnaeth y grant roi cyfle i bobl ifanc yn ardal Llandysul i gael profiadau ‘hands-on’, real gyda artistiaid proffesiynol gwahanol ym myd y theatr. Er enghraifft, cafodd pobl ifanc yr ardal gyfle i weithio gydag y perfformiwr Eddie Ladd, y cynlluniwr setiau Steffan Mathias, y peintiwr corff Raphaelle Fieldhouse a'r technegydd Siôn DOM Williams. Mae'n rhaid teithio'n bell o ardal Llandysul i fwynhau profiadau theatrig. Roedd cynnal y cyfleoedd yma ar stepen y drws pobl ifanc yn ysbrydoli rhai na fyddai erioed wedi ystyried fod yn rhan o'r byd theatr i daflu eu hunain fewn i'r profiad.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae Cynllun Grantiau Bach Ceredigion, a ariennir gan Grant Cymorth Ieuenctid Llywodraeth Cymru wedi creu cyfleoedd anhygoel i bobl ifanc Ceredigion. Trwy'r fenter hon, gellir cefnogi eu dyheadau, tra hefyd yn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg a'i diwylliant. Nod y grant yw grymuso pobl ifanc Ceredigion, a chreu dyfodol mwy disglair i’n cymunedau.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, dilynwch nhw ar Facebook: Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Youth Service; @giceredigionys ar Instagram a X (Trydar).

13/05/2024