Cynllun Gohebwyr Ifanc Chwaraeon Ceredigion: Tu ôl Y Meic
Daeth 24 o gefnogwyr pêl droed ynghyd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Iau 19 Medi i fwynhau gweithdy meistr cyfrwng Cymraeg o’r enw ‘Tu Ôl Y Meic’ gyda’r sylwebydd pêl droed proffesiynol Mei Emrys.
Trefnwyd y noson gan Cered: Menter Iaith Ceredigion a Cymru Sport fel rhan o’u Cynllun Gohebwyr Ifanc Chwaraeon yn dilyn nawdd hael gan Gyngor Tref Aberystwyth. Dros y ddau dymor pêl droed diwethaf mae’r cynllun llwyddiannus hwn wedi rhoi cyfle i ddau grŵp o bobl ifanc lleol sylwebu gemau pêl droed CPD Aberystwyth.
Yn ystod y gweithdy fe gyflwynodd Mei sut ddechreuodd ei yrfa sylwebu cyn dangos sut mae’n paratoi ei nodiadau ar gyfer gêm a thrafod sut i gyfathrebu’n effeithiol gyda’r gynulleidfa. Ar ddiwedd ei gyflwyniad fe gafodd y mynychwyr gyfle i sylwebu rhai o goliau mwyaf cofiadwy Cymru dros y blynyddoedd diwethaf megis un enwog Hal Robson Kanu yn erbyn Gwlad Belg yn Ewro 2016.
Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered: “Gyda chynifer o bobl ifanc Ceredigion yn mynd i’r brifysgol ac ymlaen at yrfa ym myd y cyfryngau, mae’r cynllun hwn yn galluogi pobl ifanc i ennill profiad ar ei stepen drws a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Ar ddiwedd y tymor, wrth i rai symud i’r brifysgol ar draws Cymru a thu hwnt mae’r cynllun hefyd yn cynnig modd i gadw’r cyswllt rhwng y bobl ifanc â Cheredigion trwy fod yn westeion ar bodlediadau’r orsaf ac i sylwebu gemau oddi cartref Aberystwyth.”
Dywedodd Mei Emrys: “Roedd hi’n braf iawn gweld gymaint o bobl, ifanc yn bennaf, yn bresennol ac roedd eu brwdfrydedd amlwg yn adlewyrchu’r diddordeb mawr sy’n bodoli mewn darlledu chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg. O glywed cyfraniadau gwych y rhai a gymerodd ran, mae’n bendant fod dyfodol sylwebu a gohebu ar bêl-droed yng Nghymru mewn dwylo diogel.”
Ychwanegodd Jake, un o’r mynychwyr: “Diolch i Cered am drefnu'r digwyddiad. Diddorol iawn i ddysgu am broses mewnol o sylwebaeth pêl-droed, yn enwedig yn yr iaith Gymraeg. Mae wedi cynyddu fy niddordeb ac wedi fy ysbrydoli i ddechrau sylwebu. Diolch Mei am dy amser.”
Os oes diddordeb gennych i roi cynnig ar sylwebu pêl droed fel rhan o’r Cynllun Gohebwyr Ifanc Chwaraeon Ceredigion yn ystod y tymor hwn cysylltwch â Cered am sgwrs trwy e-bostio cered@ceredigion.gov.uk.