Cynigiodd un o drigolion Aberystwyth swydd yn dilyn Cyfle Gwaith Tâl
Cynigiwyd cyflogaeth yn y diwydiant adeiladu i Harvey, yn dilyn chymorth gan Dîm Cymorth Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion.
Cyfeiriwyd Harvey at y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yng Ngheredigion am gymorth i ddod o hyd i waith.
Dangosodd Harvey frwdfrydedd tuag at wella ei ddyfodol ac roedd yn awyddus i sicrhau rôl barhaol yn y diwydiant Adeiladu ar ôl cwblhau ei Ddiploma Lefel 1 mewn Gwaith Saer. Fodd bynnag, roedd ei ddiffyg profiad gwaith yn rhwystr ond gyda chefnogaeth ei fentor, Delor, nodwyd y byddai Cyfle Gwaith gyda thâl yn llwybr addas i Harvey gael y profiad angenrheidiol tra’n derbyn cyflog.
Gyda chefnogaeth Catherine, Swyddog Datblygu Cyflogaeth y tîm, sicrhawyd cyfle gwaith cyflogedig am chwe wythnos fel labrwr gyda Gwasanaethau Eiddo Trawscoed (CPS) yn Llanbadarn, Aberystwyth.
Darparodd y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd offer amddiffynnol personol (PPE) iddo cyn dechrau yn ei lleoliad gwaith a darparwyd cefnogaeth barhaus iddo trwy gydol y cyfnod.
Cyflawnodd Harvey hyfforddiant Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) yn ystod ei leoliad gwaith er mwyn cael ei Gerdyn Llafurwr i'w helpu i gynnal cyflogaeth yn y diwydiant.
Yn dilyn y gefnogaeth, llwyddodd Harvey i gael swydd yng Ngwasanaethau Eiddo Trawscoed.
Dywedodd Delor, mentor: “Fel Tîm Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion, ni allem fod yn hapusach i Harvey a’r cynnydd y mae wedi’i wneud ar hyd ei daith i chwilio am swydd. Mae ei lwyddiant yn dangos effeithiolrwydd y prosiect o ran grymuso unigolion a meithrin cyfleoedd ystyrlon.”
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae llwyddiant unigolion fel Harvey yn amlygu pwysigrwydd rhaglenni o’r fath sy’n darparu llwybrau diriaethol at gyflogaeth a grymuso economaidd yn ein cymunedau. Llongyfarchiadau Harvey, daliwch ati gyda’r gwaith da!”
I gael gwybod mwy am y Gwasanaethau Cyflogaeth rydym yn eu darparu yng Ngheredigion, e-bostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Cymorth Gwaith Ceredigion Work Support ar Facebook a @CymorthGwaithCeredWorkSupport ar Instagram.