Mae sawl cynhyrchydd bwyd a diod yng Ngheredigion wedi dod i'r brig yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru 2024 a gynhaliwyd ddydd Iau 09 Mai yn Abertawe.

Mae pob un o’r enillwyr o Geredigion yn gleientiaid i Ganolfan Bwyd Cymru sy’n wasanaeth Cyngor Sir Ceredigion. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyngor, gwasanaethau technegol a hyfforddiant i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a chynhyrchwyr bwyd sydd eisoes ar waith yn y Sir.

Derbyniwyd dros 300 o geisiadau am 17 categori, a ddaeth tair gwobr yn ôl i Geredigion:

  • Gwobr Gwydnwch Busnes Bwyd a Diod Cymru - The Moody Cow
  • Gwobr Cynhyrchydd Diod y Flwyddyn, Bwyd a Diod Cymru - In the Welsh Wind Distillery
  • Gwobr Arloesedd Bwyd a Diod Cymru - Monarchs Crisps (Cefnogir y wobr gan Arloesi Bwyd Cymru, Gwobr a gyflwynwyd gan Reolwr Canolfan Bwyd Cymru, Angela Sawyer. Mae cyfleusterau prosesu cynnyrch Monarchs Crisps wedi'u lleoli yn Uned Deori Canolfan Bwyd Cymru yn Horeb)

Cafodd dau fusnes yng Ngheredigion Cymeradwyaeth Uchel, sef:

  • Cynhyrchydd Bwyd, Bwyd a Diod Cymru -  Caws Teifi Cheese
  • Uwchsgilio Busnes, Bwyd a Diod Cymru - In the Welsh Wind

Mae'r canlyniadau llawn i'w gweld ar wefan ‘The Wales Food and Drinks Awards’: 2024 Awards | Food and Drink Awards

Y Cynghorydd Clive Davies yw Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio. Dywedodd: "Mae hyn yn newyddion gwych i'n cynhyrchwyr bwyd yma yng Ngheredigion. Mae'n wych gweld cymaint o gynnyrch o ansawdd yn cael eu cydnabod, ac mae pob un ohonynt wedi defnyddio cyfleusterau Canolfan Bwyd Cymru i ddatblygu a mireinio eu cynnyrch ar gyfer y farchnad ddefnyddwyr. Llongyfarchiadau mawr i bawb!”

Am fwy o wybodaeth am Canolfan Fwyd Cymru, ewch i https://foodcentrewales.org.uk/hafan/ neu eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol drwy chwilio am Food Centre Wales ar Facebook, Instagram ac X (Trydar yn flaenorol).

10/05/2024