Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cyngor yn penodi Hyrwyddwr Lluoedd Arfog newydd

Mewn cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ddydd Iau 24 Hydref 2024, penodwyd Aelod Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog newydd.

Y Cynghorydd Gwyn JamesPenodwyd y Cynghorydd Gwyn James i gyflawni'r rôl hon i sicrhau bod anghenion a chyfraniadau personél a chyn-filwyr milwrol yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

Rôl Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog Ceredigion yw gweithredu fel eiriolwr dros yr anghenion a thynnu sylw at brofiadau Cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys codi unrhyw faterion allweddol sy'n pryderu preswylwyr yn y gymuned. Gall yr Hyrwyddwr hefyd weithredu fel pwynt cyswllt i Gymuned y Lluoedd Arfog yn y sir.

Mae’r Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yn gyfrifol am hyrwyddo buddiannau Cymuned y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion a phartneriaid wrth ddatblygu polisi a gwasanaethau sy'n sicrhau bod anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yn cael eu hystyried a'u trin.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn James, Hyrwyddwr newydd y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion: “Ategaf geiriau y Cadeirydd wrth ddiolch am gyfraniad y diweddar Cyng Paul Hinge.  Mae’n fraint ac yn anrhydedd i mi gael fy mhenodi i fod yn Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog. Fel cyn aelod o’r Awyrlu Brenhinol rwy’n ymwybodol iawn o werth aelodau unigol o’r Lluoedd Arfog, eu teuluoedd a Chyn-filwyr, rwy’n ymrwymo i gyflawni gofynion y rôl hyd eithaf fy ngallu.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: "Mae rôl Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Sir Ceredigion yn bwysig iawn, ac rwy'n hapus i groesawu'r Cynghorydd Gwyn James i'r rôl. Llongyfarchiadau ar gael ei benodi i’r rôl anrhydeddus yma i gefnogi personél milwrol, cyn-filwyr a'u teuluoedd yn y sir.

“Hoffwn gydnabod y diweddar Gynghorydd Paul Hinge am ei waith fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog Ceredigion dros y blynyddoedd. Roedd yn frwd dros ddarparu cymorth a sicrhau bod cyn-filwyr y Lluoedd Arfog ledled y Sir gyfan yn cael eu parchu a’u hystyried ym mholisïau’r Cyngor mewn Addysg, Tai a Gofal Cymdeithasol. Rwy’n siŵr y bydd y Cynghorydd James hefyd yn rhoi ei bopeth i’r rôl bwysig hon.”