Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cyngor yn cymeradwyo cynnal proses ymgynghori ar gyfer codi tâl am barcio ar bromenâd Aberystwyth

Mewn cyfarfod Cabinet Ceredigion a gynhaliwyd ar ddydd Mawrth 03 Medi 2024, cytunodd y Cabinet i gefnogi cynnal proses ymgynghori ar y cynigion a gyflwynwyd ynghylch codi tâl am barcio ar hyd rhannau o bromenâd Aberystwyth.

Amcan y cynllun yw rheoli'n well y galw am barcio yn Aberystwyth gan annog pobl i ddefnyddio meysydd parcio oddi ar y stryd y Cyngor a fyddai'n fwy priodol ar gyfer diwallu'r galw hwn am barcio. Caiff hyn ei gyflawni drwy sicrhau cydbwysedd rhwng gwahanol elfennau gan addasu’r polisi parcio presennol ac ystyried y lleoliadau, yr hyn sydd ar gael a chost gymharol parcio o ran y ddarpariaeth ar y stryd a’r ddarpariaeth oddi ar y stryd drwy opsiynau costau is tymhorol oddi ar y stryd.

Byddai cyflwyno trefn o godi tâl am barcio ar y stryd yn ariannu costau gweithredol y cynllun arfaethedig. Os byddai unrhyw incwm dros ben yn cael ei sicrhau, byddai’n cael ei ddefnyddio i gefnogi ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion sy’n dod o fewn cwmpas yr hyn a ganiateir o dan Adran 55, Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Ystyrir bod digon o lefydd parcio sbâr ar gael ym meysydd parcio Cyngor Sir Ceredigion, y meysydd parcio preifat oddi ar y stryd (gan gynnwys y rheiny sydd i’w datblygu) a’r llefydd eraill sy’n cael eu rheoleiddio ar y stryd ac felly rhagwelir na fydd parcio mewn mannau eraill neu strydoedd eraill (yr hyn sy’n cael ei alw’n Saesneg yn ‘displacement parking’) yn un o ganlyniadau negyddol posibl y cynllun hwn.

Rhai o’r manteision o’r cynllun yw:
•    Mwy o fynd a dod o ran cerbydau sy’n parcio ar y stryd
•    Y cynnydd a ragwelir mewn busnes
•    Defnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus a defnyddio mwy nag un dull o deithio 
•    Lleihau tagfeydd traffig a gwella llif y traffig mewn mannau lle ceir llawer o draffig yng nghanol y dref
•    Hybu mwy o deithio llesol

O dan y cynllun arfaethedig, byddai deiliaid y Bathodyn Glas yn cael eu heithrio o dalu am barcio a byddent hefyd yn cael eu heithrio o unrhyw gyfyngiadau amser pan fyddent yn parcio mewn man y codir tâl amdano ar yr amod eu bod yn arddangos eu Bathodyn Glas yn y modd a ragnodir. Mae’r eithriad hwn eisoes yn berthnasol o ran cilfachau aros cyfyngedig ac felly ni fyddai’r cynllun yn arwain at newid nac unrhyw effeithiau andwyol o ran parcio ar y stryd ar gyfer deiliaid bathodynnau glas. 

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Briffyrdd: “Mae promenâd Aberystwyth yn lleoliad gwerthfawr yng nghanol y dref. Pwrpas y cynllun yw creu trosiant o draffig i alluogi fwy o geir i fynd a dod heb effeithio’n negyddol ar economi’r sir. Cyn bo hir, bydd y broses ymgynghori ar y cynigion a gyflwynwyd yn dechrau felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymateb i'r ymgynghoriad.”

Bydd proses ymgynghori ar y cynigion a gyflwynwyd yn cychwyn yn fuan ac fel rhan o hyn bydd cyfle i randdeiliaid, gan gynnwys preswylwyr, busnesau/staff, ac ymwelwyr rannu eu barn. Bydd manylion pellach yn cael eu darparu maes o law.

Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd i'r Cabinet cyn y gwneir penderfyniad ynghylch gweithredu'r cynnig.