Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal trafodaeth arloesol ar rôl Hydrogen mewn amaethyddiaeth yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru

Ar ddydd Mawrth 23ain o Orffennaf, 2024 cyflwynodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion sef y Cynghorydd Bryan Davies, banel o arbenigwyr yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru i drafod y cyfleoedd a'r opsiynau presennol ynghylch y defnydd o hydrogen yn y dyfodol fel tanwydd mewn amaethyddiaeth a meysydd eraill.

O'r chwith i'r dde: Huw Davies o Ddatblygiadau Adnewyddadwy Cymru; Richard Winterbourne, Prif Swyddog Haush Energy; Dr. Joanna Oliver, Pennaeth Technoleg Haush Energy, a'r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.Mae amaethyddiaeth, yn ogystal â sectorau eraill o'r economi yng Ngheredigion ar hyn o bryd yn mynd trwy broses drosglwyddo o ddefnyddio tanwyddau ffosil i bweru eu busnesau, ond mae nifer o heriau o hyd  i fusnesau gwledig er mwyn gallu cwblhau'r siwrnai hon.  Bydd hi’n ofynnol i fusnesau fferm ddisodli disel fel ffynhonnell tanwydd allweddol ar gyfer peiriannau fferm yn y dyfodol, mae gwneuthurwyr peiriannau eisoes yn datblygu peiriannau hylosgi mewnol y gellir eu pweru gan ddefnyddio tanwydd amgen, gan gynnwys bio-nwy a hefyd Hydrogen. Mewn oes lle mae amaethyddiaeth, yn ogystal â diwydiannau eraill, yn symud tuag at ddatgarboneiddio, roedd y digwyddiad yn gyfle i arddangos ffynonellau tanwydd amgen a allai sicrhau dyfodol gwyrddach i'r diwydiant.

Roedd y panel yn cynnwys Huw Davies, Datblygiadau Adnewyddadwy Cymru, Dr Joanna Oliver, Pennaeth Technoleg, Haush Energy a Richard Winterbourne, Prif Swyddog Gweithredol Haush Energy. Mae gan bob un ohonynt brofiad helaeth o weithio gydag ynni gwyrdd, gan gynnwys gwynt, pyrolysis, ac yn fwy diweddar, Hydrogen a'r rôl y gall Hydrogen Gwyrdd ei chwarae o ran pweru ein heconomi wledig.

Roedd cyfle i ofyn cwestiynau i'r arbenigwyr ar ddiwedd y digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: Rydym yn awyddus i ddod i’r afael â thechnoleg hydrogen yng Ngheredigion, â all arwain at fanteision posibl i economi wledig Ceredigion ac i bweru ystod eang o offer amaethyddol, o gynaeafwyr i systemau dyfrhau,  tai gwydr a'n fflyd fewnol o gerbydau yng Ngheredigion. Drwy wneud hyn, gallwn wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Enghraifft arall eto o ddull arloesol Ceredigion o yrru'r agenda sero carbon net."

I gael gwybod mwy, ewch i: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/tai/gwybodaeth-a-chymorth-ariannol/cynlluniau-effeithlonrwydd-ynni/