Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu adroddiad arolygu rhagorol gan Estyn

Mae Estyn, arolygiaeth ei fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yn Nghymru wedi dyfarnu adroddiad cadarnhaol iawn i Gyngor Sir Ceredigion ar ansawdd y Gwasanaethau Addysg.

Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 2 Medi 2024, yn dilyn arolygiad manwl o weithdrefnau a threfniadau Gwasanaeth Addysg y Cyngor, gan gynnwys dadansoddiad o ymatebion i holiaduron, cyfweliadau rhagarweiniol gyda phartneriaid perthnasol, dadansoddiad o ddata amrywiol megis deilliannau dysgwyr a pherfformiad ysgolion, ansawdd a safon y cymorth a chefnogaeth sy’n cael ei ddarparu i ysgolion a chraffu manwl ar brosesau hunanwerthuso, cynlluniau strategol a threfniadau diogelu dysgwyr. 
 
Yn yr adroddiad, mae’r arolygwyr yn datgan bod yr Awdurdod yn rhoi pwyslais amlwg ar sicrhau darpariaeth addysgol sefydlog o safon uchel i ddysgwyr yng Ngheredigion a hynny dros gyfnod estynedig a bod hyn yn bennaf oherwydd arweinyddiaeth gadarn; strategaethau ac uchelgeisiau clir a bwriadus; a chydweithio agos ymysg swyddogion yr awdurdod, aelodau etholedig, ysgolion a phartneriaid eraill. Dywed hefyd bod gan yr awdurdod hanes da o gynnal a gwella eu darpariaeth a chyflawni deilliannau da i blant a phobl ifanc Ceredigion.

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o gryfderau. Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

  • Mae gan Gyngor Sir Ceredigion weledigaeth gadarn ar gyfer ei gwasanaeth gwella ysgolion. Gweithia swyddogion yn effeithiol i geisio wireddu’r weledigaeth i sicrhau'r profiadau gorau posibl ar gyfer holl blant a phobl ifanc Ceredigion ac mae ffocws cryf ar ddatblygu dysgu, addysgu a safonau lles disgyblion.
  • Mae’r awdurdod yn rhoi blaenoriaeth amlwg i ddatblygu capasiti arweinyddiaeth mewn ysgolion ac yn y gwasanaeth er mwyn ymateb i’r heriau recriwtio cenedlaethol. Mae’r strategaeth yn cynnwys y rhaglen dysgu proffesiynol, secondiadau a gweithgareddau’r tîm gwella ysgolion.
  • Mae trefniadau’r awdurdod o ran datblygu’r Gymraeg yn gryfder arwyddocaol, gwelir sawl agwedd o ragoriaeth ymhlith y ddarpariaeth a’r arferion. Ceir cydweithio llwyddiannus rhwng swyddogion yr adran diwylliant a thimau’r adran addysg i gefnogi’r Gymraeg a Chymreictod.
  • Mae’r Cynllun Strategol y Cymraeg mewn Addysg (CSGA) yn uchelgeisiol ac yn glir o ran amcanion yr awdurdod i ddatblygu’r Gymraeg, ac mae swyddogion ar draws y Gwasanaeth Ysgolion ac adrannau eraill o’r awdurdod yn ymrwymo i wireddu’r amcanion a thargedau’r cynllun.
  • Mae’r Awdurdod yn cefnogi ei ysgolion a'i leoliadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth yn effeithiol. Mae gan Ymgynghorwyr Cefnogi’r Awdurdod adnabyddiaeth gref o’u hysgolion a gwneir defnydd craff o ddata i herio a chefnogi ysgolion. Mae hyn yn nodwedd hynod gadarn a bwriadus. Dros gyfnod, mae deilliannau arolygiadau ysgolion yng Ngheredigion yn gryf.
  • Mae Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol yn hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a phresenoldeb da yn ei ysgolion, gan roi darpariaeth werthfawr ar waith i annog disgyblion i barhau i ymgysylltu ag addysg.
  • Mae gweledigaeth a darpariaeth gadarn ar gyfer bodloni anghenion disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae bod yn gynhwysol a darparu adnoddau o fewn cymunedau lleol y disgyblion yn ymagwedd glodwiw o feddylfryd yr Awdurdod. Mae amrediad o wasanaethau arbenigol buddiol i gefnogi ysgolion i ddiwallu anghenion dysgu disgyblion. Cynigir y ddarpariaeth dysgu ychwanegol yn gwbl ddwyieithog ac mae hyn yn gryfder nodedig. Mae’r tîm ADY yn sicrhau bod anghenion unigol disgyblion yn flaenoriaeth yn eu gwaith ac mae cydweithio cadarn ar draws gwasanaethau yn sicrhau ymagwedd gydlynus a pherson-ganolog.

Dywedodd Elen James, Prif Swyddog Addysg Ceredigion: “Mae’n bleser cael rhannu canlyniadau rhagorol ein harolygiad diweddar. Mae’r adroddiad hwn gan Estyn yn hynod bositif ac rwy’n ddiolchgar i’r arolygwyr am eu gwaith trylwyr. 
  
“Rwy’n hynod o falch y bod Estyn wedi cydnabod bod gan swyddogion Ceredigion berthynas waith gefnogol, gynhyrchiol a chadarnhaol ag ysgolion yr awdurdod ynghyd â sefydliadau a phartneriaid perthnasol.” 

“Mae staff yr awdurdod yn cydweithio’n agos ag ysgolion i gynnig cefnogaeth ragweithiol a phwrpasol lle bo angen, i gefnogi eu disgyblion a hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol yn effeithiol, ag i gynnig amrediad o wasanaethau arbenigol buddiol i gefnogi ysgolion i ddiwallu anghenion dysgu disgyblion, gan ddangos ein hymagwedd gynhwysol at addysg.”

“Ceir nifer o gameos/gipluniau o fewn yr adroddiad sy’n tynnu sylw penodol i’r gwaith arloesol a wneir ar draws y Gwasanaethau e.e. sut y defnyddir data i adnabod cryfderau a meysydd i’w datblygu ym mherfformiad disgyblion ag i lywio trafodaethau dadansoddol, sut y defnyddir arbenigeddau aelodau’r Tîm Cefnogi’r Gymraeg a’r adran ddiwylliant i gefnogi ysgolion sy’n newid cyfrwng iaith, a sut mae’r uwch swyddogion a'r aelodau etholedig yn ymfalchïo mewn, ac yn annog, cyfraniad plant a phobl ifanc Ceredigion wrth iddynt gynllunio ar gyfeiriad strategol yr awdurdod mewn agweddau penodol, megis addysg ôl-16 a chynllun strategol y Gymraeg mewn addysg.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r Strategaeth Gorfforaethol y Sir yn nodi Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor, un o’r amcanion hyn yw i ‘Ddarparu’r Dechrau Gorau Mewn Bywyd a Galluogi Pobl o Bob Oed i Ddysgu’. Mae’r adroddiad hwn yn dyst bod y Gwasanaeth Addysg yng Ngheredigion, ar y trywydd cywir i wireddu ein blaenoriaethau."

“Hoffwn estyn fy niolch diffuant a llongyfarch pob aelod o staff sy’n cyfrannu at addysg ein dysgwyr, am eu hymrwymiad, eu hymroddiad llwyr a’u gwaith di-flino i sicrhau bod dysgwyr Ceredigion yn llwyddo i gyrraedd safonau uchel iawn. Mae’r adroddiad hwn yn dyst o’r dyfalbarhad, cymorth, cefnogaeth a’r cydweithio effeithiol rhwng pawb sy’n rhan o daith addysgol pob plentyn a pherson ifanc yng Ngheredigion.”

Bydd y Cyngor yn gweithredu ar y ddau faes gwella sydd wedi eu hadnabod gan Estyn, sef i barhau i wella presenoldeb o fewn ysgolion yr awdurdod a datblygu ymhellach prosesau hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella fel eu bod yn canolbwyntio ar yr effaith a gaiff gwasanaethau ar ddeilliannau.

I ddarllen adroddiad Estyn, ewch i: Adroddiad arolygiad - Cyngor Sir Ceredigion 2024 (llyw.cymru)