Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 Cyngor Sir Ceredigion

Ar 19 Mawrth 2024, cymeradwyodd y Cabinet Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Ceredigion. Dyma’r pedwerydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy’n disgrifio sut y bydd y Cyngor yn parhau tuag at ei nod o gyflawni ei hymrwymiad i gydraddoldeb a sut y bydd yn cyflawni ei dyletswyddau a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Clawr y Cynllun Cydraddoldeb StrategolMae rhaid i bob awdurdod cyhoeddus gyhoeddi amcanion a chynllun sy'n disgrifio'r hyn y byddant yn ei wneud i leihau anghydraddoldeb a mynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu. Isod, mae amcanion cydraddoldeb Cyngor Sir Ceredigion:

  • Bod yn gyflogwr cyfle cyfartal enghreifftiol
  • Meithrin cysylltiadau da a mynd i'r afael â rhagfarn
  • Sicrhau ymgysylltiad a chyfranogiad
  • Sicrhau urddas, parch a mynediad at wasanaethau
  • Darparu addysg deg a chynhwysol

Datblygwyd y cynllun yn dilyn ymgyrch ymgysylltu ranbarthol ac ymgynghoriad cyhoeddus. Mae hefyd yn ystyried ymrwymiad y Cyngor i gynllun gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Bydd yr amcanion cydraddoldeb yn cael eu cyflawni drwy 34 o gamau gweithredu sy'n cynnwys ymwybyddiaeth ddiwylliannol a hyfforddiant cydraddoldeb i'r gweithlu; darparu tai sy'n diwallu anghenion pobl Ceredigion; parhau i gynnig cyfleoedd chwarae a gweithgarwch corfforol i blant a phobl ifanc anabl; a gweithredu ei Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Cam arall yw datblygu aelodaeth Fforwm Anabledd Ceredigion, sydd yn cwrdd bob tri mis. Os hoffech ymuno â’r grŵp, neu os hoffech gael fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Cyngor drwy ffonio 01545 570881 neu drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk.

Ym mis Ebrill, mynychodd y Tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant ynghyd â Ceredigion Actif ddigwyddiad Balchder Aberystwyth. Roedd hyn yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i weld Ceredigion sy'n fwy cyfartal. Ymunodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Prifysgol Aberystwyth, ag elusennau a busnesau lleol i ddangos eu cefnogaeth i'r gymuned LHDTC+ ac i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus gyda mwy na 20 o stondinwyr, perfformiadau gan artistiaid cwiar lleol, a band roc Aberystwyth Misha and the Kings. Roedd yna hefyd orymdaith ar hyd y Prom i anrhydeddu a dathlu'r gymuned LHDTC+ yn Aberystwyth.

Cynghorydd Catrin M S Davies yw Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmer, ac mae hefyd yn eiriolydd Cydraddoldeb y Cyngor. Dywedodd: “Mae Cyngor Ceredigion yn awyddus i gefnogi digwyddiadau fel hyn, ac mae'n rhan o ymrwymiad ehangach y Cyngor i weld Ceredigion decach, mwy cyfartal fel y nodir yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae mwy o waith cyson a digwyddiadau eraill o fewn yr Awdurdod gan gynnwys bod â chynllun sy'n Oed Gyfeillgar sy'n adlewyrchu anghenion poblogaeth sy'n heneiddio; sicrhau bod casgliadau amgueddfeydd yn dathlu amrywiaeth ac yn annog gwaith taclo hiliaeth, a sefydlu grŵp rhanddeiliaid LHDTC+.”

Cyfarfu grŵp rhanddeiliaid LHDTC+ cyntaf Ceredigion ym mis Mai a byddant yn cwrdd eto ym mis Medi. Os hoffech ymuno â’r grŵp, neu os hoffech gael fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Cyngor drwy ffonio 01545 570881 neu drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk.

I gael gwybod mwy am Gynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Ceredigion, ewch i dudalen we’r Cyngor > Cynllun Strategol Cydraddoldeb & Amcanion.