Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cyhoeddi canlyniad isetholiad Ward Tirymynach

Etholwyd y Cynghorydd Gareth Lewis yn ystod isetholiad ward Tirymynach a gynhaliwyd ddydd Iau, 17 Hydref 2024.

Bydd y Cynghorydd o blaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynrychioli'r ward fel Cynghorydd Sir ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion.

Daeth y swydd yn wag yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Paul Hinge ym mis Awst 2024. 

Y nifer a bleidleisiodd ar gyfer yr etholiad oedd 41.6% gyda 48.8% o’r pleidleisiau yn mynd i'r Cynghorydd Gareth Lewis. Bydd yn dechrau yn ei swydd yn y dyddiau nesaf.

Ewch i www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/is-etholiad-ward-tirymynach-17-hydref-2024/ am fwy o fanylion ac i weld y canlyniadau’n llawn.