Cyfle i rannu eich barn ar Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Ceredigion
Gofynnir i breswylwyr rannu eu sylwadau ar Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg 2024-2029 Ceredigion.
Mae’r Strategaeth hon yn gosod gweledigaeth glir ar sut bydd Cyngor Sir Ceredigion, drwy weithio mewn cydweithrediad gyda sefydliadau partner eraill, yn mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn ehangach o fewn yr ardal leol.
Y Cynghorydd Catrin M S Davies yw Aelod Cabinet Ceredigion sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg a Diwylliant. Dywedodd: “Diben y Strategaeth hon yw i ddangos ymrwymiad y Cyngor i hybu a hyrwyddo'r iaith ar draws y Sir gan amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yng Ngheredigion. Y mae'r cynlluniau a'r prosiectau a amlinellir yn canolbwyntio ar feysydd lle mae gan y Cyngor ddylanwad megis gweithlu'r Cyngor, byd addysg, gwaith Cered ac ati. Gobeithio y bydd cynifer â phosib yn rhoi ei barn ar y Strategaeth hanfodol yma.”
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei chynnal am gyfnod o bum wythnos hyd at 31 Awst 2024.
Gellir cael copïau papur o'r ymgynghoriad yn y lleoliadau canlynol:
• Llyfrgell Aberystwyth (Canolfan Alun R. Edwards, Maes y Frenhines, Aberystwyth SY23 2EB)
• Canolfan Lles Llambed
• Llyfrgell Llambed
• Llyfrgell Aberaeron
• Llyfrgell Aberteifi
• Llyfrgell Llandysul
• Llyfrgell Cei Newydd
Darllenwch Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Ceredigion 2024-2029 ar ein gwefan a rhowch eich sylwadau ar y ffurflen adborth hon: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/strategaeth-hybur-iaith-gymraeg-2024-2029/
Bydd adroddiad, yn cyfleu canfyddiadau'r ymgynghoriad, yn cael ei baratoi a'i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu a'r Cabinet am gymeradwyaeth derfynol.