Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cyfle i adolygu cynigion llefydd parcio oddi ar y stryd yng Ngheredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu gwneud newidiadau i’r ddogfen ‘Gorchymyn Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd’.

Mae Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) 2025 yn cael ei gynnig ar sail sicrhau bod Llefydd Parcio Cyngor Sir Ceredigion sy’n dod o dan y Gorchymyn yn cael eu rheoli’n effeithlon. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, symleiddio a rhesymoli’r trefniadau codi tâl, sicrhau bod Llefydd Parcio yn briodol ar gyfer y math o gerbyd / defnyddiwr a ganiateir, cynyddu capasiti, cymell pobl i brynu trwyddedau parcio, ymestyn yr eithriadau presennol ar gyfer Deiliaid Bathodynnau Glas, adlewyrchu’r newidiadau technolegol a sicrhau bod darpariaethau’r Gorchymyn, sy'n sail i'r trefniadau yn y Llefydd Parcio, yn gywir a pherthnasol.

Cyflwynir y cynigion gyda’r nod o wella’r hyn a gynigir yn gyffredinol i gwsmeriaid, cefnogi newidiadau arfaethedig ehangach i bolisi sy’n ymwneud â pharcio a chynorthwyo’r Cyngor i gyflawni cyllideb gytbwys.

Rydym yn annog preswylwyr i ddarllen y gorchymyn drafft a’r wybodaeth ategol sydd ar gael yn Ymgynghoriad Cyhoeddus Gorchymyn Cyngor Sir - Cyngor Sir Ceredigion ac os oes unrhyw wrthwynebiadau ganddynt i’r argymhellion, i naill ai gwblhau'r ffurflen ar-lein i rannu eich gwrthwynebiad (os bydd eich ymateb yn mynd y tu hwnt i'r uchafswm o ran llythrennau, anfonwch eich ymateb at clic@ceredigion.gov.uk gan roi yn y blwch testun: Ymgynghoriad Cyhoeddus - Gorchymyn Arfaethedig Cyngor Sir Ceredigion (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd) 2025) neu anfonwch lythyr yn nodi'r rhesymau dros y gwrthwynebiadau i'r Gwasanaethau Cyfreithiol, d/o Ystafell Bost, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EU erbyn 4 Rhagfyr 2024 fan bellaf.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Briffyrdd ac Amgylcheddol: “Cyflwynir y cynigion gyda’r nod o wella’r hyn a gynigir yn gyffredinol i gwsmeriaid, cefnogi newidiadau arfaethedig ehangach i bolisi sy’n ymwneud â pharcio a chynorthwyo’r Cyngor i gyflawni cyllideb gytbwys. Byddwn yn annog preswylwyr i gymryd yr amser i ddarllen y cynigion ac os oes ganddynt unrhyw wrthwynebiadau, i ymateb gan ddefnyddio'r dulliau a restrir ar y wefan.”

Gellir hefyd archwilio'r gorchymyn drafft ynghyd â gwybodaeth ategol yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa, Aberaeron; Canolfan Alun R Edwards, Maes y Frenhines, Aberystwyth; Swyddfeydd y Cyngor, Stryd Morgan, Aberteifi; a Swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan, yn ystod oriau swyddfa arferol.