Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cydnabod gwaith Effeithlonrwydd Ynni Ceredigion yn Seremoni Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Cymru

Llwyddodd Cyngor Sir Ceredigion i guro cystadleuaeth gref trwy ennill categori Corff Rhanbarthol y Flwyddyn Cyngor/Awdurdod Lleol yng Ngwobrau Effeithlonrwydd Ynni Cymru 2024, a gynhaliwyd yng ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd ddydd Gwener 5 Gorffennaf 2024. Noddwyd y wobr hon gan Improveasy.

Ystyriodd y beirniaid natur, graddfa a chwmpas y gwaith a wnaed, a rhoddwyd pwyslais arbennig ar integreiddio unrhyw gynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Llywodraeth Leol neu Genedlaethol yn llwyddiannus ym mhrosiectau'r enwebai. Barnwyd y gwaith ar:
•    yr effaith y mae wedi'i chael o fewn y gymuned leol
•    beth sydd gan y cwsmeriaid a'r gymuned leol i'w ddweud am y cyngor
•    pa lefel o arbenigedd sydd gan y cyngor o fewn ei dimau ei hun
•    pa flaenoriaeth y mae'r cyngor yn ei rhoi i fynd i'r afael â thlodi tanwydd o fewn ei gynlluniau presennol

Cafodd y Cyngor ganmoliaeth uchel hefyd yng nghategori Sefydliad Rhanbarthol y Flwyddyn o ran Cymorth i Gwsmeriaid sy’n Agored i Niwed. Roedd y categori hwn, a noddwyd gan Consumer Energy Solutions, yn cydnabod gwir ymrwymiad i wella bywydau pobl sy’n agored i niwed trwy effeithlonrwydd ynni yn ei ranbarth. 

Mae’r Cyngor wedi bod yn darparu cynllun Cymhwystra Hyblyg ECO yr Awdurdod Lleol ers sawl blwyddyn. Mae'r cynllun wedi helpu aelwydydd i leihau eu biliau ynni, mynd i'r afael â thlodi tanwydd, a lleihau allyriadau carbon drwy osod systemau gwresogi, paneli ffotofoltäig solar a mesurau inswleiddio cysylltiedig. Mae hyn wedi gwella effeithlonrwydd ynni a chyfforddusrwydd thermol llawer o gartrefi Ceredigion ac mae wedi bod yn hanfodol yn ystod argyfwng y costau byw ac ynni.

Y Cynghorydd Matthew Vaux yw’r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaeth Tai. Dywedodd: “Mae'r wobr hon yn dyst i waith caled y tîm Effeithlonrwydd Ynni. Mae trigolion wedi elwa o'r arbedion a'r cyfforddusrwydd ychwanegol o gartrefi wedi'u hinswleiddio'n well ledled Ceredigion. Os ydych chi'n meddwl y gallech elwa o'r cynllun, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'n tîm arobryn."

I gael mwy o wybodaeth am gynllun ECO4 Flex a sut i wneud cais, ewch i dudalen we'r Cyngor: Cymhwystra Hyblyg ECO4 Awdurdod Lleol Cyngor Sir Ceredigion neu ffoniwch y Gwasanaeth Tai ar 01545 572105.