Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cronfa Grant Cymunedol ar agor ar gyfer ceisiadau

Mae grantiau ar gael tuag at bethau fel prynu a datblygu tir, prynu adeiladau, prynu offer ac uwchraddio cyfleusterau presennol. Mae cyfle i ymgeisio ar gyfer dau grant: y Gronfa Grant Cyfalaf a Chronfa Grant Polisi.

Grant Cyfalaf
•    Ceisiadau ar agor hyd at 30 Medi 2024.
•    Bydd uchafswm y grant cyfalaf sydd ar gael yn is na 50% o gost y prosiect neu’r swm sydd ei angen i ariannu diffyg ariannol y prosiect, yn amodol ar uchafswm o £10,000.

Grant Polisïau
•    Ar agor ar gyfer ceisiadau drwy'r flwyddyn, ond anogir ymgeiswyr i wneud cais cyn gynted â phosibl.
•    Ariennir grantiau polisi drwy Gronfa Eglwys Cymru (WCF) a gall fynd tuag at Eisteddfodau, Sioeau lleol ac ati.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael: “Mae'n bwysig bod grwpiau cymwys a'r digwyddiadau hyn yn cael cymorth ariannol sydd ei hangen arnynt i sicrhau bod ein cymunedau'n parhau i ffynnu. Os yw eich sefydliadau yn cyd-fynd â'r meini prawf, ewch amdani a gwnewch gais am y grant."

Rhaid i geisiadau am grantiau ddangos bod unrhyw brosiect arfaethedig yn bodloni o leiaf un o'r amcanion a amlinellir yn y Strategaeth Gorfforaethol: www.ceredigion.gov.uk/media/yn5hb3pb/strategaeth-gorfforaethol-2022-2027.pdf

Gellir dod o hyd i feini prawf cymhwysedd llawn a phecyn ymgeisio ar gyfer y Grantiau Cyfalaf a Pholisi ar ein gwefan yma: www.ceredigion.gov.uk/busnes/cyllid-a-grantiau/grantiau-cymunedol/ 

Ar gyfer unrhyw gwestiynau, e-bostiwch grantiaucyllid@ceredigion.gov.uk.