Skip to main content

Ceredigion County Council website

Croeso i’r Sioe Frenhinol

Cynhaliwyd digwyddiad ‘Croeso i’r sioe’ brynhawn ddydd Llun, 22 Gorffennaf ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, gan mai Ceredigion yw’r Sir nawdd eleni.

Yn bresennol yn y derbyniad oedd aelodau’r Gymdeithas o Geredigion sydd wedi bod ynghlwm â’r gwaith yn ystod y blynyddoedd yn arwain at y sioe yn ogystal â chwmnïau o Geredigion sy’n arddangos yn y sioe.

Croesawyd y gynulleidfa i faes y Sioe Frenhinol gan Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies. Yn rhan o’i gyflwyniad, dywedodd: “Mae’n fraint sylweddol i ni fod yma yn y Sioe Frenhinol fel y Sir Nawdd eleni. Mae’r cyfle hwn yn ein galluogi i arddangos y diwylliant cyfoethog a’r ysbryd cymunedol sy’n diffinio ein Sir wledig. Mae hi’n briodol mai Ceredigion yw’r Sir Nawdd eleni wrth i’r Gymdeithas ddathlu ei 120fed flwyddyn, gyda’r sioe gyntaf yn cael ei chynnal yn Aberystwyth yn 1904.”

“Dros y tair flwyddyn ddiwethaf, mae pobl Ceredigion wedi dod at ei gilydd i godi arian a threfnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i hyrwyddo gwaith y gymdeithas a’r digwyddiadau. Mae’r ymdrechion o godi arian ar draws y Sir yn gofyn am ymroddiad, dyfalbarhad, egni ac mae’r brwdfrydedd i weld yn amlwg yn eich gweithgareddau. Prynhawn yma, rwyf yn falch iawn i groesawi chi yma i longyfarch a chydnabod y gwaith rydych wedi ei gyflawni. Rwy’n deall bod yr arian a godwyd yn cael ei fuddsoddi’n ôl i faes y sioe, gan ei wneud yn un o’r rhai gorau yn Ewrop.”

Nicola Davies yw Cadeirydd Cyngor y Gymdeithas, Sioe Frenhinol Cymru. Dywedodd: “Mae’r berthynas rhwng y Cyngor Sir a’r sioe yn un gref, gyda llawer o’n gweithwyr yn dod o gefndir amaethyddol. Mae’r Cyngor wedi bod yn hynod gefnogol i fi yn fy rôl fel cyfieithydd y Cyngor Sir, ochr yn ochr i fy rôl fel Uwch Sylwebydd y Sioe a nawr yn y rôl Cadeirydd Cyngor y Gymdeithas y sioe.”

Cafwyd cyflwyniad gan Rhys Davies, Archifydd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru am yr hanes o’r blynyddoedd Cynnar o’r sioe o 1904. Dywedodd:  “Mae 2024 yn flwyddyn fawr i Geredigion. Ac mae 2024 hefyd, fel ni gyd yn ymwybodol yn flwyddyn fawr i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sy’n gyfrifol am y sioe hon, gan ei bod hi’n dathlu ei phen-blwydd yn 120 oed. Ac wrth ystyried bod dechreuadau’r Gymdeithas yn Sir Aberteifi, oherwydd yno yn 1904 y plannwyd yr hadau a ddechreuodd wreiddio, mae’n gyd-ddigwyddiad rhyfedd mai tro Ceredigion yw bod yn Sir Nawdd eleni, a hynny ar yr union flwyddyn pan mae’r Gymdeithas yn nodi carreg filltir arbennig yn ei hanes.”

Cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau trwy gydol yr wythnos ar stondin y Cyngor, gan gynnwys digwyddiad a chyflwyniad am botensial hydrogen yn y byd amaeth ac economi Ceredigion a Chanolbarth Cymru, sesiwn galw heibio i drafod cyfleoedd tai yng Ngheredigion a sesiwn galw heibio am gyfleoedd ynni lleol. Bydd cyfle i weld Ceredigion drwy glustffonau realiti rhithiwr (VR), cwblhau jig-so enfawr o Geredigion, ymweld ag arddangosfa Rali Ceredigion a chyfle i weld amrywiaeth o gynnyrch lleol o’r Sir. I flasu'r cynnyrch bwyd ardderchog sydd gennym yng Ngheredigion, ewch i'r Brif Neuadd Fwyd.

I weld yr amserlen lawn, ewch i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol; @CyngorSirCeredigion ar Facebook, @CSCeredigion ar X a @CaruCeredigion ar Instagram.