Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion yn ennill y cyfanswm o fedalau yn Eisteddfod yr Urdd 2024

Mae Ceredigion wedi ennill y nifer fwyaf o fedalau yn Eisteddfod yr Urdd eleni, gan gipio cyfanswm o 135 gwobr.

Roedd Eisteddfod yr Urdd a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf ym Maldwyn, Powys, yn Eisteddfod llwyddiannus iawn i blant a phobl ifanc Ceredigion. Ceredigion enillodd y nifer uchaf o fedalau, gyda 53 o fedalau Gwobr Gyntaf; 40 medal Ail Wobr ; a 42 o fedalau ar gyfer y Trydydd Wobr. 

Cipiodd Ceredigion ail safle agos i Gaerdydd a’r Fro. Bu cystadleuwyr o bob rhan o Geredigion yn canu, dawnsio, ac adrodd gan ddathlu’r iaith, celf a diwylliant Cymreig. Roedd cystadlaethau eraill yn cynnwys barddoniaeth a llenyddiaeth, yn ogystal â gwyddoniaeth, technoleg, celf, a sgiliau galwedigaethol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae gweld ein pobl ifanc yn dod i’r brig yn wych ond yr hyn sydd bwysicaf yw’r cyfleoedd mae’r Urdd wedi eu rhoi i’n pobl ifanc ni i fwynhau profiadau diwylliannol a chreadigol nid yn unig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ond hefyd mewn Eisteddfodau Cylch, Rhanbarthol a chystadleuthau a digwyddiadau amrywiol eraill. Mae’r diolch yn fawr iawn hefyd i’r holl athrawon, gwirfoddolwyr a rhieni/gofalwyr sy’n rhoi o’u hamser er mwyn sicrhau’r cyfleoedd a’r profiadau i’n plant a’n pobl ifanc ni yn y Sir.

“Llongyfarchiadau gwresog i’n cystadleuwyr, eu hathrawon a’u hyfforddwyr a diolch hefyd i Swyddogion yr Urdd am yr ysbrydoliaeth.”

I gael gwybod mwy am Eisteddfod yr Urdd, ewch i: www.urdd.cymru/cy/eisteddfod/ 

I ddysgu am sut y mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi a hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymraeg, ewch i: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisiau/iaith-gymraeg/datganiad-polisi-iaith-gymraeg/