I gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, dyma hanes un o drigolion Ceredigion a dderbyniodd gymorth gan wasanaethau Cyngor Sir Ceredigion i fynd i’r afael a’i heriau iechyd meddwl.

Ar ddiwedd 2023, a dechrau 2024, roedd menyw ifanc, 20 oed, yn wynebu heriau sylweddol gyda'i hiechyd. Roedd poen gwanychol yn ei chymalau yn golygu ei bod hi'n cael trafferth gweithio a gwneud tasgau syml o ddydd i ddydd. Nid tan yn gynharach eleni a wnaeth hi ddatgelu ei brwydrau i’w theulu, a dweud wrthynt ba mor heriol oedd ei hiechyd meddwl.

Wrth gydnabod y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a chorfforol ac yn benderfynol o ddod o hyd i ateb, gofynnodd ei mam am help gan Paul, Cydlynydd Ymyriadau Iechyd Ceredigion Actif. Trefnodd Paul sesiynau i’r ferch ifanc yn y Ganolfan Llesiant yn Llanbedr Pont Steffan.

Dywedodd mam y ferch ifanc: “Aeth staff y Ganolfan gam ymhellach i gefnogi fy merch. Anogodd Sue a Llinos, sy’n staff Ymyrraeth Iechyd, hi gyda chefnogaeth a thosturi, i’w helpu i oresgyn ei phryder, er gwaethaf ofn a phryder cychwynnol. Trawsnewidiodd yr hyn a ddechreuodd fel pyliau o banig a dagrau yn sesiynau campfa lawn chwerthin lle gallai’r ferch ifanc dyfu ei hyder fesul sesiwn.”

Yn fuan, dechreuodd y ferch ifanc fynychu'r sesiynau yn annibynnol, heb ei mam, a chafodd gysur a chryfder yn yr amgylchedd cefnogol a grëwyd gan Sue, Llinos, a'i chyd-gyfranogwyr.

Ychwanegodd mam y ferch ifanc: “Roedd yr effaith ar ei hiechyd meddwl yn ddifrifol. Lleihaodd pryder cymdeithasol, cynyddodd ei chymhelliant, a gwellodd ei hiechyd corfforol yn sylweddol. O ganlyniad, mae fy merch bellach yn dilyn ei breuddwyd o astudio Seicoleg yn y brifysgol: sy’n dyst i’r trawsnewid rhyfeddol y mae hi wedi’i gael.”

Dywedodd y ferch ifanc: “Mae Sue a Llinos wedi fy nghynhyrfu’n llwyr ac wedi fy helpu i gael fy hun eto. Mae'r gwahaniaeth rhyngof yn y sesiwn gyntaf a fynychais a nawr yn anhygoel. Mae fy hyder wedi cynyddu’n aruthrol ac mae’r sesiynau hyn nid yn unig wedi bod o fudd i fy iechyd corfforol ond hefyd fy iechyd meddwl.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmer: “Mae profiadau’r ferch ifanc hon yn dangos pa mor bwysig yw hi i hybu gweithgaredd corfforol fel ffordd o gefnogi iechyd da i’r meddwl a'r corff, yn enwedig ymhlith y genhedlaeth ifanc. Mae'n ffordd syml ond pwerus sydd yn newid bywydau ac yn meithrin gwytnwch mewn oes llawn heriau. Wrth i ni nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae’n werth cofio, weithiau, bod ymarfer corff yn rhan o gychwyn ar y daith i wella salwch meddwl.”

Am fwy o wybodaeth am Geredigion Actif, dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol: Ceredigion Actif ar Facebook, a @CeredigionActif ar Instagram ac X (Trydar yn flaenorol).

Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, yn cael trafferth gydag iechyd meddwl, ewch i: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/llesiant-meddyliol-a-chamddefnyddio-sylweddau/iechyd-meddwl/

20/05/2024