Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cered ar y Prom ’24

Dewch i fwynhau prynhawn llawn adloniant Cymraeg yn Bandstand Aberystwyth ddydd Mercher 31 Gorffennaf gyda digwyddiad arbennig sydd wedi ei drefnu gan Cered: Menter Iaith Ceredigion.

Fe fydd drysau ‘Cered ar y Prom’ yn agor am hanner dydd ac fe fydd llond llaw o stondinau a gweithgareddau drwy’r prynhawn gan gynnwys helfa drysor ar hyd Prom Aberystwyth, gweithdy Lego, cornel gemau bwrdd Cymraeg a heriau corfforol gan griw Chwaraeon a Hamdden y Mentrau Iaith.
 
Yn ogystal â hyn fe fydd yna arlwy o berfformwyr a sesiynau yn cychwyn am un o’r gloch gyda sesiwn stori a chân Cymraeg i Blant ac am ddau o’r gloch sesiwn gyda’r “Doctor Cymraeg” - sy'n ffenomenon cyfryngau cymdeithasol o Wrecsam, ac a fydd yn sgwrs ddifyr tu hwnt ac yn addas i ddysgwyr
 
Am dri o’r gloch fe fydd y gerddoriaeth yn cychwyn gyda pherfformiadau gan artistiaid a bandiau lleol sef y gantores-gyfansoddwraig o Bontrhydfendigaid Rhiannon O’Connor, y rocars o Aberystwyth ‘Bwca’ ac enillwyr Brwydr y Bandiau Gwerin Eisteddfod 2023 ‘Lo-Fi Jones’ o Fachynlleth. Yn cloi’r ŵyl fechan hon fydd y gerddorfa ukulele Iwcadwli sydd wedi bod yn diddanu ymwelwyr i’r Bandstand yn rheolaidd dros y mis diwethaf.
 
Dywed trefnydd y digwyddiad, Steff Rees ar ran Cered: “Dyma brynhawn rhad ac am ddim llawn hwyl a sbri i bob oed yng nghanol y gwyliau ysgol fydd yn cynnig diddanwch i blant ac oedolion lleol tra hefyd yn agor y drws i iaith a diwylliant Cymru i’r rheiny fydd yn ymweld â Cheredigion dros y gwyliau.”
 
Y Cynghorydd Catrin M S Davies yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ddiwylliant. Dywedodd: “Dyma gyfle gwych, dros wyliau’r haf, i deuluoedd a ffrindiau ar draws y Sir i fwynhau cerddoriaeth a gweithgareddau yn Gymraeg. Mae 'na groeso i bawb, o’r rheiny sy’n cychwyn ar eu taith dysgu Cymraeg i’r rhai sy’n rhugl, a phawb yn y canol. Dewch yn llu!”
 
I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar Cered: Menter Iaith Ceredigion, ewch i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol; @Cered - Menter Iaith Ceredigion ar Facebook, @MICered ar X ac Menteriaithceredigion ar Instagram.