Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cais am farn trigolion ar Gynllun Cynefin ac Arfarniad Ardaloedd Cadwraeth

Gofynnir i drigolion a phartïon sydd â diddordeb am eu barn i helpu i lunio datblygiad yng Nghei Newydd.

Mae creu lleoedd yn ddull 'sy'n canolbwyntio ar bobl' o gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd a gofodau. Mae'n ceisio creu adeiladau ac ardaloedd lle byddai pobl yn dymuno byw, gweithio a threulio amser. Mae egwyddorion creu lleoedd wrth wraidd cynllunio yng Nghymru.

Mae gwasanaeth Economi ac Adfywio'r Cyngor yn gyrru'r agenda creu lleoedd drwy ddatblygu cyfres o ddogfennau creu lleoedd. Mae'r dogfennau cynllunio blaengar hyn yn darparu syniadau ac arweiniad i hwyluso'r gwaith o ddarparu datblygiad cynaliadwy o ansawdd uchel yng Ngheredigion.

Er mwyn cefnogi creu lleoedd yng Nghei Newydd, mae'r Cyngor wedi comisiynu Rural Office i baratoi Cynllun Cynefin ac Ymgynghoriaeth Treftadaeth Griffiths i baratoi Cynllun Arfarnu a Rheoli Ardaloedd Cadwraeth ar gyfer Cei Newydd. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cynlluniau Cynefin yn fecanwaith a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gymunedau ymgysylltu'n greadigol â'r broses gynllunio. Gall Cynlluniau Cynefin roi cyfle i gynnig mwy o fanylion polisi cynllunio ar gyfer ardaloedd lleol sy'n adlewyrchu arbenigrwydd lleol ac yn mynd i'r afael â materion penodol ar raddfa gymunedol.

I'r gwrthwyneb, mae Arfarniadau Ardaloedd Cadwraeth yn canolbwyntio ar ardaloedd sydd eisoes o bwys pensaernïol a hanesyddol. Maent yn nodi'r hyn sy'n gwneud ardal yn arbennig ac unrhyw gyfleoedd neu broblemau a allai fodoli. Mae hyn yn sail ar gyfer cynlluniau rheoli manylach sy'n nodi ymatebion priodol i fynd i'r afael â'r cyfleoedd a'r materion hyn. 

Os hoffech chi ein helpu i lunio'r cynllun cynefin a/neu'r cynllun gwerthuso a rheoli ardal gadwraeth ar gyfer Cei Newydd, neu os hoffech ddysgu mwy am y gwaith sy'n cael ei wneud, dewch draw i'r digwyddiad galw heibio canlynol:

Dyddiad

Lleoliad

Amser

05 Medi 2024

Neuadd Goffa Cei Newydd, Towyn Rd, SA45 9RE

16:30 – 18:00

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: "Mae ymgysylltu â'r gymuned leol yn bwysig o ddechrau unrhyw broses creu lleoedd er mwyn nodi ac ystyried eu hanghenion, eu syniadau a'u safbwyntiau wrth lunio dyfodol lleoedd. Felly, byddwn yn annog pob parti sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.”

I dderbyn rhagor o wybodaeth am y digwyddiad galw heibio, neu os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr rhanddeiliaid, cysylltwch â Gwasanaeth Polisi Cynllunio’r Cyngor drwy e-bost ar ldp@ceredigion.gov.uk.

Fel arall, gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am waith creu lleoedd y Cyngor ar ein gwefan: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/cynllunio-rheoli-adeiladu/cynllunio-a-rheoli-adeiladu/creu-lleoedd/