Cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth y DU i dyfu economi Canolbarth Cymru
Ar faes Sioe Frenhinol Cymru ar ddydd Llun yr 22ain o Orffennaf gwnaeth y Fonesig Nia Griffith DBE AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru, gyfarfod â'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys a’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, i drafod y cynnydd a wneir wrth dyfu economi Canolbarth Cymru.
Mae Cynghorau Ceredigion a Phowys wedi bod yn cydweithio ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat i fynd ar drywydd twf economaidd strategol fel rhan o Dyfu Canolbarth Cymru. Mae’r partneriaid wedi cydweithio ar amryw o weithgareddau fel rhan o'r Weledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth y DU ar y cyd â chyllid Llywodraeth Cymru i gael y dylanwad mwyaf a chreu swyddi a thwf.
Clywodd y Gweinidog am y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghanolbarth Cymru sy'n cael ei gefnogi gan gyllid Llywodraeth y DU, yn benodol:
• Bargen Twf Canolbarth Cymru: buddsoddiad hirdymor o £110m gan Lywodraethau'r DU a Chymru sy'n sbarduno buddsoddiad ychwanegol sylweddol. Derbyniodd y Gweinidog ddiweddariadau ar y Rhaglen Safleoedd a'r Rhaglen Ddigidol yn ogystal â'r naw prosiect sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar gyfer cyllid.
• Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: buddsoddiad o £42.4m yng Nghanolbarth Cymru sy'n helpu cymunedau a busnesau i ffynnu a thyfu. Derbyniodd y Gweinidog ddiweddariadau ar y cynnydd ar hyn o bryd a'r amserlenni.
Roedd cyfle hefyd i drafod y gwaith sy'n mynd rhagddo yng Nghanolbarth Cymru o ran Ynni, Trafnidiaeth a Sgiliau, a phwysigrwydd cydweithio ar draws sectorau’r Llywodraeth a’r economi. Mae hyn yn arbennig o wir mewn economi wledig megis un Canolbarth Cymru lle mae cydweithio'n hanfodol i fynd i'r afael â'r heriau unigryw ac i wneud y mwyaf o gryfderau'r rhanbarth er mwyn datblygu a thyfu’n gynaliadwy.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt a'r Cynghorydd Bryan Davies, “Roeddem yn falch o gwrdd â'r Gweinidog newydd heddiw i drafod sut i ddatgloi potensial economaidd Canolbarth Cymru. Mae gennym strategaeth a gweledigaeth ar y cyd â’n partneriaid allweddol er mwyn sicrhau twf. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn parhau i weithio law yn llaw â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i feithrin cydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan weithio fel un tîm – i hybu cynhyrchiant a sbarduno twf economaidd hirdymor a chynaliadwy.”
Gwnaeth y Fonesig Nia Griffith DBE AS hefyd dynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio mewn partneriaeth yn ogystal â’r gwaith sy'n mynd rhagddo yn y rhanbarth. Dywedodd: "Roeddwn yn falch iawn o gwrdd ag unigolion allweddol sy'n ymwneud â Bargen Twf Canolbarth Cymru. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i dwf economaidd a dim ond trwy weithio mewn partneriaethau y gallwn wneud hyn, a ddangosir gan y gwaith sy'n cael ei wneud yma. Trwy fuddsoddi mewn seilwaith allweddol a meithrin y partneriaethau hyn rhwng y llywodraeth a'r sector preifat, rydym yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol llewyrchus i Ganolbarth Cymru."
Roedd Sioe Frenhinol Cymru yn lleoliad addas ar gyfer y drafodaeth bwysig hon, gan danlinellu'r cysylltiad hanfodol rhwng datblygiadau economaidd yn yr economi wledig. Boed ym meysydd tir ac amaeth neu dechnoleg amaeth, ynni, bwyd a thwristiaeth, mae angen buddsoddi’n barhaus mewn seilwaith a sgiliau i gefnogi'r weledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Tyfu Canolbarth Cymru, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr misol drwy e-bostio tyfucanolbarthcymru@ceredigion.gov.uk.