Skip to main content

Ceredigion County Council website

Bwrsari Ieuenctid Ceredigion 2024 wedi’i wobrwyo

Mae tri person ifanc o Geredigion wedi elwa o fwrsariaeth a ddarparwyd unwaith eto eleni gan West Wales Holiday Cottages.

Mae Bwrsari Ieuenctid Ceredigion yn ei seithfed flwyddyn, gyda busnes lleol West Wales Holiday Cottages yn cynnig hyd at £1,500 i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i’w helpu gyda’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Ers ei sefydlu, mae 18 person ifanc wedi derbyn cefnogaeth gan Fwrsariaeth Ieuenctid Ceredigion. Derbyniwyd cyfanswm o 33 o geisiadau eleni, yn amrywio o fentrau cymdeithasol i syniadau am brosiectau, digwyddiadau cymunedol a cheisiadau am hyfforddiant.

Dewiswyd y ceisiadau llwyddiannus gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion (Panel Dewis) dros wyliau’r haf. Trwy ddefnyddio matrics sgorio, penderfynwyd dyfarnu'r fwrsariaeth i dri ymgeisydd llwyddiannus, am eu syniadau arloesol a'r effaith bosibl ar eu bywydau a'u cymunedau yng Ngheredigion.

Derbyniodd Katie Whiteway, 14 oed; Esme Drakeley, 13 oed a Lleucu-Haf Thomas, 15 oed i gyd fwrsariaeth i’w cefnogi i gyrraedd eu nodau personol mewn Chwaraeon a Cherddoriaeth.

Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc: “Rydym yn ddiolchgar iawn i West Wales Holiday Cottages am roi’r cyfle hwn i ni unwaith eto eleni. Fel ni, mae West Wales Holiday Cottages yn cydnabod gwerth buddsoddi yn ein pobl ifanc, er mwyn eu cefnogi i gyrraedd eu potensial. Mae’n gyfle gwych i gydweithio â busnes lleol. Roedd yn wych gweld ansawdd a nifer y ceisiadau a dderbyniwyd. Mae’r cyfle hwn hefyd yn brofiad da i aelodau ein Fforwm Ieuenctid a wnaeth yn dda iawn wrth wneud rhai penderfyniadau anodd.”

Gwahoddwyd yr enillwyr i noson gyflwyno yn Arad Goch, Aberystwyth ar 15 Awst 2024 er mwyn cyflwyno eu sieciau ac i ddathlu eu llwyddiannau. Hefyd wedi’u gwahodd i’r noson wobrwyo eleni oedd enillwyr y fwrsariaeth llynedd sef, Katie Jones, Cameron Allen ac Ifan Meredith. Roedd Thomas Kendall, un o enillwyr y fwrsariaeth yn 2021 hefyd yn bresennol ar y noson a rhoddodd araith am sut wnaeth y fwrsariaeth ei alluogi i ddilyn gyrfa mewn Therapi Galwedigaethol, ac wedi hynny sut y gwnaeth ei gefnogi i raddio fel Therapydd Galwedigaethol a oedd yn gallu dychwelyd i fyw a gweithio yng Ngheredigion. Yn ystod y noson, cafodd aelodau Panel Dewis hefyd eu cydnabod am eu gwaith a’u hymrwymiad i gefnogi’r Cynllun Bwrsariaeth Ieuenctid.

Dyweddodd Lisa Stopher, Cyfarwyddwr West Wales Holiday Cottages: “Mae'n fraint i West Wales Holiday Cottages noddi Bwrsariaeth Ieuenctid Ceredigion. Rydym yn falch iawn o ddathlu talent, ymroddiad a gwaith caled y bobl ifanc yn ein cymuned a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni eu breuddwydion. Mae enillwyr y Fwrsariaeth yn cynrychioli'r gorau o ddyfodol Ceredigion, ac mae eu hangerdd, eu gwytnwch a'u hymrwymiad wir yn ysbrydoledig.”

Dywedodd Ifan Meredith, Enillydd Bwrsari 2023 a disgybl yn Ysgol Bro Pedr, nad oedd yn gallu ymuno â’r noson gyflwyno: “Mae ennill y fwrsariaeth hon wedi fy ngalluogi i barhau i ddatblygu fy sgiliau newyddiadurol er mwyn gallu creu straeon pwysig am faterion lleol ar wefan Clonc360 ynghyd â Phapur Bro Clonc. Mae’n hanfodol fod straeon o’r fath yn cael eu cyhoeddi er mwyn sicrhau fod barn pobol yn cael eu lleisio. Rwyf wedi dangos fy sgiliau i gyflwyno stori di-duedd wrth greu eitem am bryderon dros ddyfodol Llyfrgell Llanbed a fy sgiliau cyfathrebu i gyfweld ag ymgeiswyr Ceredigion Preseli yn ystod cyfnod yr etholiad. Mae’r ffordd rwyf wedi gallu cyflwyno straeon proffesiynol yn ddiolch i gwrs Newyddiadura a Chyfryngau a fynychais gan ddefnyddio arian dderbyniais gan Fwrsariaeth Pobl Ifanc Ceredigion 2023.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau i’r holl bobl ifanc a gyflwynodd geisiadau cryf ar gyfer y fwrsariaeth hon. Roedd hi’n bleser gweld dyheadau a mentergarwch gyffrous y bobl ifanc ac rwy’n falch iawn eu bod yn cael cydnabod gyda’r fwrsariaeth arbennig hon. Pob lwc i bawb yn y dyfodol.”

Bydd rhagor o wybodaeth am y fwrsariaeth flwyddyn nesaf ar gael yn 2025.