Atgoffa pleidleiswyr i ddod a dogfen adnabod â llun i bleidleisio yn Etholiad Senedd y DU
Cynhelir Etholiad Senedd y Deyrnas Unedig ar gyfer Aelod Seneddol Etholaeth Ceredigion Preseli ar ddydd Iau 04 Gorffennaf, 2024.
Dyma’r tro cyntaf i bleidleiswyr bleidleisio yn Etholaeth Ceredigion Preseli – Etholaeth newydd yn dilyn newidiadau ffiniau etholaethau ar draws Prydain.
Bydd angen i bleidleiswyr cymwys ddangos dogfen adnabod â llun i bleidleisio yn yr Etholiad hwn. Mae’r rhestr lawn o’r mathau o ddogfen adnabod â llun a dderbynnir ar gael ar ein gwefan.
Os nad oes gan bleidleiswyr unrhyw fath o ddogfen adnabod a dderbynnir, gallant wneud cais am ddogfen adnabod â llun yn rhad ac am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am ddogfen adnabod â llun yw 5:00yp ddydd Mercher 26 Mehefin. Gellir gwneud cais ar-lein drwy ymweld â www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio ar gyfer Etholiad Senedd Etholaeth Ceredigion Preseli yw hanner nos ddydd Mawrth, 18 Mehefin. Os ydych chi wedi symud tŷ yn ddiweddar, bydd angen i chi gofrestru yn eich cartref newydd. Cofrestrwch yma: www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Os nad ydych am bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais ar gyfer pleidlais bost hyd at 5:00yp ddydd Mercher 19 Mehefin a cyn 5:00yp ddydd Mercher 26 Mehefin ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy. Gallwch nawr wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy drwy ymweld â www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwyr-post neu www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwy-ddirprwy
Cofiwch, os oes gennych chi deulu neu ffrindiau sy’n ddinasyddion Prydeinig sy’n byw tramor, gallant nawr bleidleisio yn Etholiadau Senedd y DU, hyd yn oed ar ôl 15 mlynedd i ffwrdd, drwy bleidlais bost neu drwy ddirprwy. I gael fwy o wybodaeth ewch i electoralcommission.org.uk/cy/Pleidleiswyrtramor
Dywedodd Eifion Evans, Swyddog Canlyniadau Ceredigion Preseli: “Dydyn ni ddim eisiau i unrhyw golli eu hawl i bleidleisio, felly sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio cyn hanner nos, dydd Mawrth, 18 Mehefin. Os ydych yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, rwy'n annog i chi ymgyfarwyddo â'r newidiadau a ddaw yn sgil y gofyniad dogfen adnabod â llun, gan gynnwys pa fath o ddogfen adnabod sy'n dderbyniol. Os nad oes gyda chi ddogfen adnabod â llun addas, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr nail ai ar-lein neu drwy gysylltu â'n tîm Gwasanaethau Etholiadol i lenwi’r ffurflen gais ar bapur.”
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Etholiadol Ceredigion Preseli ar 01545 572032, gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk neu ewch i www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/