Skip to main content

Ceredigion County Council website

Arloesedd yn economi canolbarth Cymru

Cynhaliwyd digwyddiad ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Llun 22 Gorffennaf. Amlygodd y digwyddiad bwysigrwydd arloesi i economi'r Canolbarth.

Daw'r digwyddiad yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i gefnogi Porth Amaeth-Dechnoleg gyda chyllid o £5 miliwn i gynorthwyo prosiectau dan arweiniad busnes sy'n canolbwyntio ar ddatblygu syniadau ac arferion arloesol yn y sectorau hyn. Bwriad y gronfa yw hybu’r economi wledig drwy sicrhau swyddi, twf a chynhyrchiant uwch ledled y Gogledd a’r Canolbarth.

Amcan y prosiect yw adeiladu ar weithgarwch presennol a chyfleoedd yn y sectorau hyn yng nghanolbarth a gogledd Cymru gyda'r nod ar y cyd o gynyddu cynhyrchiant drwy arloesi yn seiliedig ar fusnes a chyfrannu at ddatgarboneiddio'r sector amaethyddol ehangach. 

Roedd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth, partneriaid allweddol ym maes amaethyddiaeth a bwyd a sawl cwmni sydd wedi elwa o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn bresennol yn y digwyddiad i dynnu sylw at eu gwaith arloesol: Yma, Nellie Technologies, ArcitekBio, PlantSea, Hybu Cig Cymru, Enviro365 and Shire Meadery.

Pwysleisiodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies, bwysigrwydd adeiladu ar ein cryfderau mewn bwyd-amaeth a thechnoleg, gan ddweud: “Mae'r buddsoddiad posibl hwn yn gam sylweddol ymlaen ac yn adeiladu ar gryfderau ein heconomi wledig. Drwy feithrin arloesedd a chydweithio rhwng busnesau a sefydliadau academaidd, gallem sicrhau bod canolbarth a gogledd Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau technoleg amaethyddol a bwyd.”

Croesawodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, y fenter, gan ddweud: “Fel sefydliad, rydyn ni’n falch iawn o’r rôl ganolog rydyn ni’n ei chwarae yn economi’r Canolbarth, ac economi Cymru gyfan. Dros y 150 mlynedd diwethaf, mae'r Brifysgol wedi bod yn fan geni llawer o syniadau sydd wedi ysgogi arloesedd economaidd. Mae'r fenter hon yn cynnig cyfle ardderchog i ni greu mwy o swyddi sy'n talu'n dda. Mae Aberystwyth yn arbennig o ffodus i fod ag arbenigwyr sy’n arwain y byd ym meysydd amaethyddiaeth a bwyd. Mae effeithiau eu gwaith yn cael eu teimlo, nid yn unig yn lleol ac yn genedlaethol, ond ar draws y blaned - gan ateb cwestiynau a heriau sy'n ein helpu i symud ymlaen. Rydyn ni’n gwybod bod yr agenda twf yn brif flaenoriaeth i’r llywodraeth – ac mae sicrhau bod manteision twf yn cyrraedd ein rhanbarthau ni yng Nghymru yn nod rydyn ni i gyd yn ei rannu. Wrth edrych i’r dyfodol, bydd cydweithio pellach rhwng y llywodraeth, diwydiant a’r sector addysg uwch yn hanfodol er mwyn i ni sicrhau bod ein cymunedau’n ffynnu.”

Roedd y digwyddiad yn arddangos yr ymdrechion cydweithredol a'r arloesedd parhaus yng nghanolbarth Cymru, gan baratoi ar gyfer dyfodol llewyrchus wedi'i yrru gan ddatblygiadau technolegol a phartneriaethau strategol.