Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth eleni, mae Maethu Cymru Ceredigion yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth i gefnogi pobl ifanc lleol mewn angen.

Mae ymchwil ddiweddar gan Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdod lleol, yn dangos nad yw pobl yn gwneud cais i ddod yn ofalwyr oherwydd nad ydynt yn credu bod ganddynt y sgiliau a’r profiadau ‘cywir’.

Yn eu llyfr newydd, Dewch â rhywbeth at y bwrdd,  mae Maethu Cymru’n tynnu sylw at y pethau syml y gall ofalwyr eu cynnig; megis sicrwydd pryd o fwyd rheolaidd, amser gyda’r teulu o amgylch y bwrdd, a chreu hoff brydau newydd.

Mae gan Dewch â rhywbeth at y bwrdd dros 20 rysáit, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned gofal maeth a chogyddion enwog.

Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans; beirniad Young MasterChef, Poppy O’Toole; a’r cogydd/awdur Colleen Ramsey wedi cyfrannu ryseitiau. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys yr athletwraig ac ymgyrchydd dros ofal maeth, Fatima Whitbread, a fu mewn gofal.

Fe gyfrannodd cyn-gystadleuydd y Great British Bake-Off, Jon Jenkins, a’r ddigrif-wraig Kiri Pritchard McLean ryseitiau hefyd, gan dynnu o’u profiadau personol fel gofalwyr maeth.

Pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn rhannu profiadau go iawn

I lansio’r llyfr, bydd Colleen Ramsey, awdur Bywyd a Bwyd, Life Through Food’, yn cynnal gweithdy coginio i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Byddant yn dysgu rysáit newydd a sgiliau coginio hollbwysig i gymryd gyda nhw i’w bywydau annibynnol yn y dyfodol. Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y llyfr coginio hefyd.

Dywedodd Sophia Warner, Cymraes sy’n ddarlunydd, ymgyrchydd ac yn berson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal greodd ddarluniau a rhagair y llyfr: “Pan oeddwn i’n iau, dw i’n cofio croesholi fy mam faeth ynglŷn â tharddiad y bwyd y byddai’n ei baratoi. Roeddwn i’n mynnu ei fod yn dod o Aberhonddu, sef milltir sgwâr fy mhlentyndod. Fe ysgrifennais ‘Bolognese Aberhonddu’ ar gyfer y llyfr coginio, yn seiliedig ar rysáit fy mam faeth. Mae’r rysáit yn annwyl iawn i mi, gan mai dyma’r pryd o fwyd cyntaf ges i pan symudais i mewn i'm cartref maeth. Soniais fod fy mam enedigol arfer ei baratoi i mi, ac aeth fy mam faeth ati i’w baratoi i mi. Wrth i mi eistedd wrth y bwrdd gyda fy nheulu maeth newydd, cefais deimlad cynnes – teimlais fy mod yn perthyn a chefais groeso cynnes.”

Mae angen rhagor o deuluoedd maeth ledled Cymru

Bob mis Mai mae Pythefnos Gofal Maeth, sef ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. Mae’r ymgyrch yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r angen am fwy o ofalwyr maeth.

Yng Nghymru mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Mae Maethu Cymru wedi cychwyn ar eu nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Lesiant Gydol Oes: “Mae'r llyfr coginio yn ddarn gwych o waith sy'n dangos y profiadau realistig o ofalu maeth ac yn pwysleisio'r sgiliau bob dydd sydd eu hangen i fod yn ofalwr maeth, fel coginio bwyd. Hoffwn ddiolch i'n gofalwyr maeth presennol yma yng Ngheredigion sy'n parhau i helpu plant yn yr ardal leol i adeiladu dyfodol gwell. Mae plant Ceredigion angen teuluoedd lleol am bob math o resymau - o leoliadau tymor byr i rai tymor hwy, felly os ydych chi'n meddwl y gallech chi fod yn ofalwr maeth, cysylltwch â'r tîm drwy ffonio 01545 574000. Helpwch ni i wneud gwahaniaeth yng Ngheredigion.”

Bydd y llyfr coginio’n cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ledled Cymru, a gellir lawrlwytho fersiwn digidol o: https://fosterwales.gov.wales/bringsomethingtothetable/

Er mwyn darganfod rhagor am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i www.ceredigion.maethucymru.llyw.cymru neu ffoniwch 01545 574000.

17/05/2024