Angen i’r gymuned gyd-weithio er mwyn trawsnewid dyfodol technoleg Aberteifi, Llandysul, a Maesycrugiau
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i fod yn un o’r siroedd gwledig sydd a’r cyswllt gorau yn y DU, gyda'r nod o wella pob math o gysylltedd sefydlog a symudol er mwyn cefnogi twf busnes, yr economi, ansawdd bywyd trigolion, twristiaeth a'r amgylchedd.
Ar hyn o bryd mae nifer o brosiectau yn cael eu cynnal er mwyn cyflawni hyn drwy amrywiol gynlluniau ac opsiynau ariannu; un o'r rhain yw cais Openreach i ddod â band eang ffeibr cyflawn cyflym a dibynadwy iawn i gartrefi a busnesau lleol yn Aberteifi, Llandysul, a Maesycrugiau (sydd hefyd yn cefnogi rhai adeiladau ar ochr Ceredigion i'r ffin).
Mae Openreach wedi nodi bod Aberteifi a Llandysul yn ymgeiswyr cryf ar gyfer rhwydwaith ffeibr llawn. Fodd bynnag, elfen hanfodol ar gyfer llwyddiant y prosiect yw gallu'r cymunedau i ddangos fod galw amdano trwy gyflwyno Talebau Gigabit Llywodraeth y DU-sydd yn rhad ac am ddim-i brosiect Openreach er mwyn cyrraedd y trothwy cyllido sydd ei angen.
Bydd defnyddio’r talebau-sy’n costio dim i’r trigolion-yn dilysu fod diddordeb gan y gymuned ac yn hanfodol i ryddhau cyllid o Lywodraeth y DU a fydd yn galluogi Openreach i weithio gyda’r gymuned leol i ddatblygu ac addasu, rhwydwaith wedi’i ariannu ar y cyd.
Dywedodd Cynghorydd Sir Ceredigion, Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: "Nid yw technoleg ffeibr llawn yn ymwneud â rhyngrwyd cyflymach yn unig. Mae'n ymwneud ag adeiladu seilwaith digidol mwy dibynadwy, gwydn a diogel ar gyfer y dyfodol ar gyfer Aberteifi a Llandysul. Rydym yn awyddus i weld datblygiadau digidol fel hyn yn ffynnu. Bydd y prosiect hwn o fudd nid yn unig i gartrefi ond hefyd i fusnesau lleol, ysgolion a gwasanaethau gofal iechyd. Bu'r prosiect hwn yn llwyddiannus yn gynharach yn y flwyddyn gyda Thregaron a Rhydlewis sydd wedi paratoi'r ffordd i'r mentrau tebyg hyn ledaenu ledled Ceredigion."
Mae technoleg ffeibr llawn yn darparu ymgysyllted mwy dibynadwy, gwydn a pharod at y dyfodol; llai o broblemau; cyflymder sy’’n medru eu rhagweld a chyson yn well gyda digon o gapasiti i gwrdd â gofynion data cynyddol yn rhwydd. Mae hefyd yn paratoi at y dyfodol, sy’n golygu y bydd yn medru gwasanaethu’r cenedlaethau’r dyfodol heb yr angen i ddiweddaru’r cyswllt am ddegawdau.
Mae Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaeth Cymru Openreach, yn pwysleisio pwysigrwydd cyfranogiad cymunedol: "Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl Aberteifi, Llandysul, a Maesycrugiau ddod â holl fanteision band eang ffeibr llawn cyflym a dibynadwy iawn i'w cymuned. Ond mae adeiladu'r rhwydwaith yn y lleoliadau anghysbell, sy’n anodd ei cyrraedd yn heriol, a dyna pam mai dim ond wrth i bawb gyd-weithio y bydd yn bosibl."
Gall trigolion Aberteifi, Llandysul, a Maesycrugiau gyflwyno’u talebau trwy ‘r wefan Cysylltu fy Nghymuned (openreach.com): https://www.openreach.com/connectmycommunity
Am fwy o wybodaeth am brosiectau digidol yng Ngheredigion, ewch i: www.ceredigion.gov.uk/busnes/ceredigidol/