Skip to main content

Ceredigion County Council website

Amdani yn lansio Ton Newydd Cymru cystadleuaeth ffilm fer i feithrin ffilm Gymraeg ledled Cymru

Mae’r cwmni cynhyrchu ffilm a theledu o Geredigion wedi lansio cystadleuaeth sy’n cynnig rhaglen datblygu talent, a sy’n cael ei beirniadu gan Huw Penallt Jones, Mererid Hopwood, a Gwenllian Gravelle.

Cyfranogwyr gweithdy Aberystwyth, credyd: Eddie Yeoman.Mae ‘Ton Newydd Cymru’ (‘Welsh New Wave’) yn gystadleuaeth ffilm fer gyffrous a rhaglen datblygu talent sydd â’r nod o feithrin gwneuthurwyr ffilm newydd ledled Cymru. Cynlluniwyd y fenter hon i roi llwyfan i leisiau newydd yn sinema Cymru, gan arwain at gynhyrchu a dosbarthu ffilm fer Gymraeg nodedig.  

Mae Ton Newydd Cymru yn gwahodd cyflwyniadau gan ddarpar wneuthurwyr ffilm rhwng 1 Hydref, 2024, a 18 Tachwedd, 2024. Unwaith y bydd y ffenestr gyflwyno wedi cau, bydd rheithgor yn dewis tri yn y rownd derfynol ym mis Rhagfyr 2024, a fydd yn ymuno â rhaglen datblygu talent. Bydd ffilm yr enillydd terfynol, a ddewisir yng ngwanwyn 2025, yn cael ei chynhyrchu a’i dosbarthu gan y cwmni cynhyrchu llwyddiannus o Geredigion, Amdani.

Derbynnir ceisiadau i’r gystadleuaeth yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd yr ymgeisydd buddugol yn cael ei gefnogi i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg ac felly mae’r gystadleuaeth yn agored i rai o bob lefel o hyfedredd Cymraeg.

Yr aelodau rheithgor yw:

  • Gwenllian Gravelle – Comisiynydd Drama S4C, sy’n adnabyddus am gynhyrchu dramâu gan gynnwys Pobol y Cwm, Casualty, Under Milk Wood a nifer o ddigwyddiadau byw gan gynnwys Canwr y Byd Caerdydd.
  • Mererid Hopwood – Archdderwydd uchel ei pharch yr Eisteddfod Genedlaethol, yn harbenigedd mewn barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg.
  • Huw Penallt Jones – Cynhyrchydd ffilm gyda dros 40 mlynedd o brofiad, sy’n adnabyddus am ei waith ar ffilmiau proffil uchel fel Cold Mountain, The Man Who Knew Infinity a Patagonia.

Dywedodd Mererid Hopwood: “Rwyf wrth fy modd o gael ymuno â chriw Ton Newydd Cymru fel rhan o’r prosiect hwn wrth iddo hyrwyddo celfyddyd creu ffilmiau Cymraeg a Chymreig. Rwy’n edrych ymlaen at glywed lleisiau storïwyr newdd sy’n gallu adrodd – drwy gyfrwng ffilm – waith sy’n mynnu’n anorfod ein holl sylw. Rwy’n dychmygu y bydd rhaid i’r gwneuthurwyr ffilm, i raddau fel beirdd, ymarfer crefft cynildeb, gan obeithio gadael y gwylwyr-gwrandawyr ag atgofion newydd sy’n diddanu ac yn procio’r meddwl.”

Dywedodd Huw Penallt Jones: “Rwy’n falch o gefnogi Ton Newydd Cymru fel beirniad. Trwy greu ffilmiau byr yn y Gymraeg, rydym yn darparu mynediad i straeon ac iaith Gymraeg, gan gadw hanes cyfoethog y traddodiad llenyddol llafar tra’n cofleidio cyfrwng gweledol modern. Mae ffilmiau byr yn ymwneud â bod yn gryno. Rhaid i’r sgript a’r naratif gyfleu stori gymhellol a chlyfar mewn ffordd gryno a deniadol, i gyd o fewn amserlen fer. Beth fyddwn i’n ei ddweud wrth y rhai sy’n ystyried gwneud cais am Ton Newydd Cymru? Yn syml iawn: gwnewch hynny. Mae’r gystadleuaeth hon yn cynnig llwyfan i rannu eich straeon gyda’r byd, arbrofi gyda’ch syniadau, ac, yn bwysicaf oll, i dderbyn adborth adeiladol a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich crefft.”

I gefnogi ymgeiswyr, cynhaliodd Amdani gyfres o weithdai ym mis Medi 2024. Roeddent wedi'u hanelu at bobl ag uchelgais neu dalent newydd ar gyfer adrodd straeon ffilm.

Cynhaliwyd y gweithdai wyneb yn wyneb yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, ac Aberteifi, ac roeddent yn canolbwyntio ar adrodd straeon, cyflwyno cyflwyniadau a sgiliau cyfathrebu.

Ymhlith y rhai a fynychodd y gweithdai roedd rhai myfyrwyr o gwrs Cyfryngau Creadigol Coleg Ceredigion. Dywedodd Sophia Bechraki, darlithydd yn y cyfryngau yng Ngholeg Ceredigion: 

“Fel rhan o’u cwrs, mae gofyn i fyfyrwyr weithio i safon broffesiynol i ddatblygu a chyflwyno syniadau, ac felly roedd yn ddefnyddiol iddynt gael mewnwelediadau ac awgrymiadau gan y rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant.  Fe wnaeth y myfyrwyr adael wedi cael eu hysbrydoli i gyflwyno ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth."

Mae Ton Newydd Cymru wedi derbyn £39,173.44 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a weinyddir gan Dîm Cynnal y Cardi ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi lansiad cystadleuaeth ffilm fer ‘Ton Newydd Cymru’ gan Amdani. Mae’r fenter hon nid yn unig yn tynnu sylw at dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru ond hefyd yn rhoi llwyfan unigryw i wneuthurwyr ffilm newydd arddangos eu talent yn yr iaith Gymraeg. Trwy feithrin lleisiau newydd a meithrin creadigrwydd, rydym yn sicrhau bod y traddodiad o adrodd straeon Cymraeg yn parhau i ffynnu mewn sinema fodern. Edrychwn ymlaen at weld y ffilmiau arloesol ac ysbrydoledig a fydd yn deillio o’r gystadleuaeth hon.”

 Wedi’i sefydlu yn 2018 gan y cyfarwyddwr, Amy Daniel, mae Amdani yn gwmni cynhyrchu ffilm a theledu deinamig sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth. Yn adnabyddus am ei hymrwymiad i sinema Gymraeg a gwneud ffilmiau cynaliadwy, mae Amdani wedi derbyn cydnabyddiaeth mewn gwyliau rhyngwladol ac yn ymroddedig i hyrwyddo diwylliant Cymreig trwy ffilm. 

Trwy gefnogaeth Media Cymru, ac mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, mae Amdani yn arloesi gyda dull cynaliadwy o wneud ffilmiau yng Nghymru. Cenhadaeth Amdani hefyd yw dyrchafu ffilmiau Cymraeg i gynulleidfaoedd byd-eang, gan feithrin cymuned greadigol fywiog, Gymraeg ei hiaith.

Dywedodd yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: “Trwy ei phartneriaeth ag Amdani, mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gefnogi Ton Newydd Cymru, a fydd yn meithrin sgiliau creadigol ac yn grymuso storïwyr uchelgeisiol i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith. Rydym eisoes yn edrych ymlaen at wylio’r ffilm fuddugol!”

Mae gweithiau blaenorol Amdani yn cynnwys:

  • Arth (2018): Ffilm gomedi fer Gymraeg a gafodd ganmoliaeth ŵyl ryngwladol.
  • Ysbrydion (2022): Rhaglen ddogfen arobryn yn archwilio profiadau LGBTQ+ yng nghefn gwlad Cymru.
  • The Legend of Bryngolau (2020): Wedi’i gynnwys yng Ngŵyl Ffilmiau Ann Arbor, yn darlunio taith gyfriniol gwyliwr adar yn anialwch Cymru.