Mae llwybr newydd wedi'i greu ym Mharc Natur Penglais yn dilyn cyllid gan Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion.

Bydd y llwybr newydd hwn yn cael ei agor yn swyddogol gan Faer newydd Aberystwyth, y Cynghorydd Maldwyn Pryse, am 11:00 ddydd Sadwrn18 Mai 2024.

Cynheuodd dau dân gwyllt yr haf diwethaf gan achosi difrod mawr i ardal y chwarel isaf ym Mharc Natur Penglais. Cyfarfu Grŵp Cefnogi Parc Natur Penglais a thrafod sut y gallent ddefnyddio'r cyfle i adeiladu llwybr fel y gall pobl fwynhau'r golygfeydd hardd a welir o'r rhan ddiarffordd hon o'r Parc sydd wedi'i hesgeuluso ers tro.

Y Cynghorydd Alun Williams yw Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Cynghorydd Lleol ar gyfer Ward Aberystwyth Morfa a Glais: “Ar ôl y tân difrifol y llynedd, pan fu'n rhaid i drigolion lleol adael eu cartrefi, gwelsom gyfle i wella'r ardal ar gyfer y gymuned yn ogystal â helpu i atal rhagor o danau pan fydd y tywydd yn boeth. Mae’r gwaith o adeiladu'r llwybr hwn wedi dod ynghyd yn eithriadol o gyflym oherwydd gwaith gwych y tîm mawr o wirfoddolwyr lleol, gyda chymorth ariannol gan y Cyngor Sir. Mae'r llwybr troellog newydd yn agor rhan o'r parc nad oedd yn gyfleus ynghynt ac mae modd cael golygfa hyfryd o’r dref oddi yno. Ar yr un pryd gobeithio y bydd yn darparu bwlch yn y tyfiant i atal tanau rhag lledaenu yn y dyfodol."

Cafwyd arian grant gan Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion sydd wedi galluogi gwirfoddolwyr o'r gymuned leol a myfyrwyr o grŵp Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth i helpu creu’r llwybr newydd.

Llwyddodd y grŵp i weithio o dan gyfarwyddyd y contractwr lleol Peter Drake am gyfanswm o oddeutu 350 o oriau i greu llwybr sy'n nadreddu ei ffordd drwy domenni sborion yr hen chwarel. Mae'r llwybr newydd yn creu cylchdaith wedi'i harwyddo o'r prif lwybr o Gornel Cooper i fyny’n raddol drwy’r allt a chlychau’r gog gan gynnig golygfeydd godidog o'r dref.

Am ragor o wybodaeth am Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion, neu i gofrestru ar gyfer y cylchlythyr cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk.

17/05/2024