Agoriad Cylch Meithrin newydd sbon yn Llambed
Mae Cylch Meithrin newydd sbon wedi agor ei ddrysau ar ôl misoedd o baratoi.
Wedi’i leoli yn Llanbedr Pont Steffan, yn Ysgol Bro Pedr, mae drysau Cylch Meithrin Pont Pedr wedi bod ar agor ers dechrau’r tymor yn dilyn gwaith caled pwyllgor gwirfoddol brwdfrydig a chefnogaeth amhrisiadwy Carole Williams o’r Mudiad Meithrin, Gail MacDonald o Dechrau’n Deg a Carys Davies o Uned Gofal Plant Cyngor Sir Ceredigion a Carys Morgan a Nia Lloyd Evans o Ysgol Bro Pedr.
Dechreuodd 9 o blant bach dwy oed yn y boreau ond ers hanner tymor, gan bod y Feithrinfa ar agor drwy'r dydd, mae dros ugain o blant erbyn hyn yn mynychu.
Cafwyd agoriad swyddogol y Cylch ar ddydd Gwener 8 Tachwedd, 2024 gyda llawer o westeion yn bresennol gan gynnwys Maer Llanbed, Gabrielle Davies; y Cynghorydd Keith Evans Cadeirydd y Cyngor ac Elen James, Prif Swyddog Addysg y Cyngor.
Dywedodd Annwen Thomas, arweinydd Cylch Meithrin Pont Pedr: “Dwi wrth fy modd yn arwain y Cylch a gweld plant yr ardal yn ffynnu ac yn datblygu eu sgiliau drwy chwarae. Mae mor wych eu gweld mor hapus yn ein Meithrinfa newydd. Mae gennym bedwar aelod o staff i gyd; fi fy hun, Kayleigh, Abigail a Bethan, sydd i gyd yn cyfrannu'n sylweddol at lwyddiant Pont Pedr.”
Roedd Carole Williams, Swyddog Sefydlu a Symud talaith y De Orllewin, yn gwbl ganolog i'r pwyllgor wrth sefydlu'r Cylch. Dywedodd: "Mae'r Mudiad Meithrin wrth ei bodd wrth i Gylch Meithrin Pont Pedr agor ei ddrysau o dan gynllun Sefydlu a Symud y Mudiad. Rydym yn ddiolchgar iawn i nifer fawr o drigolion yr ardal, athrawon a Phennaeth Ysgol Bro Pedr, Cynghorwyr Lleol a Sir, rhieni ac aelodau o Ganolfan Deuluoedd Llanbedr Pont Steffan am eu cymorth i ddatblygu ac agor Cylch Meithrin Pont Pedr.”
Dywedodd Gail MacDonald o Dechrau'n Deg, oedd hefyd wedi bod yn un o'r partneriaid wrth roi'r Cylch yn ei le: “Mae'n dda gweld bod Cylch Meithrin Pont Pedr wedi agor. Roedd galw mawr am ofal sesiynol yn Llanbedr Pont Steffan ac mae cydweithio rhwng y partneriaid yn golygu bod lle pwrpasol i blant rhwng dwy a phedair oed dderbyn gofal o ansawdd uchel. Bydd yn gyfle gwych i blant cyn oed ysgol gael profiadau diddorol mewn amgylchedd effeithiol gyda staff profiadol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi agoriad y Cylch Meithrin newydd, amgylchedd bywiog a meithringar lle gall ein trigolion ieuengaf ffynnu. Mae'r cyfleuster hwn yn cynrychioli ein hymrwymiad i ddarparu addysg a gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Credwn y bydd Cylch Meithrin Pont Pedr yn dod yn gonglfaen i'n cymuned, gan feithrin cariad at ddysgu ac ymdeimlad o berthyn o oedran cynnar. Edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar blant Llanbedr Pont Steffan a’r ardal a'u teuluoedd.”
Bydd y Cylch yn trefnu digwyddiadau yn y misoedd nesaf i gefnogi rhedeg y Cylch. Os oes gennych chi unrhyw syniadau ac eisiau ymuno â'r pwyllgor gweithgareddau, mae croeso mawr i chi.
Os ydych yn awyddus i’ch plant 2-3 oed ymuno a chofrestru yn y cylch cysylltwch ag Annwen Thomas yr arweinydd ar cmpontpedr@gmail.com.