Adroddiad perfformiad yn tynnu sylw at gyflawniadau'r Cyngor
Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi ei fesurau perfformiad yn erbyn ei Amcanion Llesiant Corfforaethol ar ei wefan. Mae hyn yn galluogi’r cyhoedd weld sut mae'r Cyngor yn perfformio yn erbyn ei dargedau, ac mewn rhai achosion sut mae'n perfformio o'i gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru.
Mae'r adroddiad yn crynhoi perfformiad y Cyngor ar draws amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer 2023-24.
Mae'r mesurau'n dangos pa mor dda y mae ein gwasanaethau'n perfformio wrth ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth a'u heffeithlonrwydd a'u gwerth am arian.
Dyma rai o lwyddiannau allweddol Ceredigion ar gyfer 2023-24:
Gofalwyr a chymorth cymunedol: Derbyniodd 3,529 o unigolion ar draws y sir gefnogaeth gan y Cyngor sy'n fwy na'r targed o 2,800 o bobl.
Mannau croeso cynnes a banciau bwyd: Gallai preswylwyr gael mynediad i 63 o fannau croeso cynnes a banciau bwyd mewn lleoliadau cymunedol ledled y sir sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr a’i gefnogi gan y Cyngor mewn partneriaeth â Sefydliadau Gwirfoddol Cymdeithas Ceredigion.
Rhaglenni gweithgarwch corfforol: 167,503 o ymweliadau i raglenni ffitrwydd mewn cyfleusterau hamdden sy’n eiddo i’r Cyngor a’r Ganolfan Lles newydd.
Prydau ysgol am ddim: Cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgolion cynradd yng Ngheredigion erbyn mis Medi 2023.
Ailgylchu gwastraff: 71.69% o wastraff yn cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio, sy’n uwch na’r targed cenedlaethol o 64%.
Estyn: Nid oedd angen unrhyw adolygiad pellach ar ysgolion Ceredigion a lleoliadau na chynhelir a arolygwyd gan Estyn. Derbyniodd Ceredigion adroddiad ardderchog gan Estyn o ran pa mor dda y mae'n darparu ei wasanaethau addysg.
Tipio anghyfreithlon: Y nifer cyfartalog o ddiwrnodau gwaith a gymerwyd i glirio digwyddiadau tipio anghyfreithlon oedd 2.42 diwrnod, a chyrhaeddwyd y targed o 5 diwrnod.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am Berfformiad: “Mae'r mesurau hyn yn caniatáu i drigolion a rhanddeiliaid weld sut rydym yn perfformio, gan gynnwys o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Yn ogystal â'n dal yn atebol am ein perfformiad, mae'n annog gwelliant parhaus ac yn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus i wella'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau. Mae ein hymdrechion yn bennaf oherwydd gwaith caled ac ymroddiad ein staff sy'n darparu'r gwasanaethau hyn i'n preswylwyr a'n cwsmeriaid, felly hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith caled.”
Ewch i www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisiau/perfformiad/canlyniadau-perfformiad/ am ragor o wybodaeth.