Yn dilyn llwyddiant y trefniadau ar gyfer casglu gwastraff dros gyfnod y Pasg, a gyda golwg i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i drigolion, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi newid pryd y bydd gwastraff yn cael ei gasglu ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc.
Yn ystod mis Mai byddwn yn ymgeisio i ddarparu casgliadau gwastraff fel a ganlyn:
Diwrnod Casglu Arferol |
|
Casglu ar |
Dydd Llun 1 Mai |
Symud i |
Dydd Sadwrn 29 Ebrill |
Dydd Llun 8 Mai |
Symud i |
Dydd Sadwrn 6 Mai |
Dydd Llun 29 Mai |
Symud i |
Dydd Sadwrn 27 Mai |
Gofynnir i drigolion rannu’r wybodaeth mor eang â phosib gyda chymdogion, teulu, ffrindiau a chymunedau ar draws Ceredigion a all gael eu heffeithio.
Y bwriad yw parhau gyda’r dull yma o weithio ar gyfer Gŵyl y Banc sy’n syrthio ar ddydd Llun ym mis Awst. Yn sgil hyn bydd y casgliadau gwastraff sydd wedi eu rhaglennu ar ddydd Llun yn cael eu casglu ar y dydd Sadwrn blaenorol.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Rydym yn adolygu’n barhaus ein dull o ddarparu ein gwasanaethau gyda’r bwriad o roi’r gwasanaeth gorau posib i’r cyhoedd gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni. Mae casgliadau gwastraff ar Ŵyl y Banc yn hanesyddol wedi bod yn broblematig ac wedi cynnig heriau.
“Yn ystod 2023 ein bwriad yw dod â chasgliadau a drefnwyd ar gyfer Dydd Llun Gŵyl y Banc ymlaen i'r dydd Sadwrn blaenorol. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi gwell cyfle i ni sicrhau’r adnoddau sydd eu hangen arnom i ddarparu’r gwasanaethau ac yn rhoi cyfle i adfer yn fuan wedyn os na allwn gasglu ar y diwrnod a drefnwyd. Byddwn yn ymdrechu i rannu’r wybodaeth mor eang â phosib ac, fel bob amser fel rhan o Caru Ceredigion, hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus.”
Cadwch olwg ar ein gwefan am y diweddaraf o ran casgliadau gwastraff: Diweddariadau Casgliadau Gwastraff
Safleoedd Gwastraff Cartref
Dros y Gwyliau Banc ym mis Mai, bydd oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llambed a Chilmaenllwyd fel a ganlyn:
Diwrnod |
Oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llambed a Chilmaenllwyd dros Gwyliau Banc mis Mai |
Dydd Sadwrn |
10:00 – 15:00 |
Dydd Sul |
10:00 - 15:00 |
Gŵyl Banc Dydd Llun |
10:00 - 15:00 |
Ni fydd newid i oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros y Gwyliau Banc ym mis Mai
Diwrnod |
Oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros y Gwyliau Banc ym mis Mai |
Dydd Sadwrn |
10:00 - 17:00 |
Dydd Sul |
10:00 - 17:00 |
Gŵyl Banc Dydd Llun |
Ar Gau |
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Ceredigion drwy ffonio 01545 570881 neu ewch i’r wefan: Cyngor Sir Ceredigion
26/04/2023