Roedd y Ffair Gyrfaoedd a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 21 Mawrth 2023 yn llwyddiant ysgubol gan roi cyfle i bobl ifanc holi cwestiynau a dysgu am brentisiaethau a chyfleoedd gyrfa o safon yng Ngheredigion.

Bu'r Tîm Dysgu a Datblygu o Gyngor Sir Ceredigion yn siarad â channoedd o bobl ifanc drwy gydol y dydd.

Cafodd pobl ifanc gyfle i gael eu portread cartŵn wedi’i wneud gan Sion Tomos, yr artist o Gymru a’r cyflwynydd radio a theledu, ynghyd â chystadlu am wobr tocyn aur. Dyluniwyd y tocyn aur gan Andrew Edwards, cyn-fyfyriwr cyfryngau creadigol o Ysgol Penglais a Choleg Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Rydym yn ffodus tu hwnt o gael pobl ifanc mor dalentog a galluog yng Ngheredigion. Mae'n bwysig ein bod yn gallu darparu cyfleoedd gyrfa iddyn nhw fedru aros yn eu cymunedau a ffynnu sy'n fuddiol iddyn nhw fel unigolion ac i'r gymuned gyfan."

Dywedodd Debbie Ayriss, Rheolwr Dysgu a Datblygu: "Roedd Sion yn boblogaidd iawn ac fe wnaeth gwblhau dros 200 o bortreadau cartŵn o bobl ifanc. Roedd ein gwobr tocyn aur hefyd yn ein galluogi i siarad â llawer o bobl ifanc am eu huchelgeisiau gyrfaol a darpar gyfleoedd cyflogaeth gyda'r Cyngor. Ein gobaith yw y bydd hyn yn annog pobl ifanc i ystyried gyrfaoedd gyda'r Cyngor yn y dyfodol". 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa gyda Cyngor Sir Ceredigion, cymerwch olwg ar y swyddi gwag sydd ar gael ar ein tudalen swyddi: Swyddi Ceredigion neu dilynwch @SwyddiCyngorSirCeredigion ar Facebook am y diweddaraf.

27/03/2023