Yn dilyn llwyddiant ysgubol ei thaith yn 2022, mae Bronwen Lewis yn dod â ‘More from The Living Room’ i Theatr Felinfach nos Wener 24 Mawrth 2023.

Bydd yn ail-greu hud ei gigs rhithiol ar lwyfan gan berfformio casgliad o’i hoff ganeuon a storïau lu. Mae’n addo i fod yn noson o adloniant byw amhrisiadwy.

Bydd y gynulleidfa yn profi amrywiaeth o ganeuon gan gynnwys detholiad newydd o’i chaneuon gwreiddiol gan blethu’r Gymraeg i mewn i ganeuon poblogaidd Saesneg. Perfformir ystod eang o ganeuon ganddi o glasuron traddodiadol Cymreig i ganeuon cyfoes.

Mae gan y gantores a’r gyfansoddwraig arddull hyfryd a chynnes o gyflwyno caneuon gwlad, pop, gwerin a blws. Derbyniodd glod rhyngwladol yn ystod ei chyfnod ar The Voice ar y BBC pan lwyddodd i ddod a dagrau i lygaid Tom Jones ac wrth gwrs mae hi’n falch iawn o’i gallu i siarad Cymraeg. Bu hefyd yn serennu ac yn canu’r gan agoriadol ‘Bread and Roses’ yn y ffilm ‘Pride’ a enillwyd Gwobr BAFTA.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M.S Davies, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Ddiwylliant: “Mae Theatr Felinfach yn adnodd amhrisiadwy i drigolion sir Ceredigion gan gynnig arlwy o’r traddodiadol i’r arbrofol a phopeth yn y canol. Roedd hi’n bleser bod yno ddydd Sadwrn diwethaf i weld perfformiad theatr unnos – y cyntaf o’i bath yn yr Ŵyl Ddrama.” 

Cynhaliwyd llu o weithgareddau yn ddiweddar yn rhan o’r Ŵyl Ddrama, partneriaeth rhwng Theatr Felinfach a Theatr Gydweithredol Troedyrhiw.

Dywedodd Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach: “Er mai gŵyl weddol fechan oedd Yr Ŵyl Ddrama eleni, roedd ei heffaith yn fawr ar bawb ddaeth ynghyd fel cyfranogwyr, perfformwyr a chynulleidfaoedd. Cynhaliwyd Darlith Goffa Marie James gydag Euros Lewis yn olrhain hanes y bardd a’r dramodydd Idwal Jones a nodi dylanwad Idwal ar gymunedau a thrigolion Ceredigion a thu hwnt. Dychwelodd Euros gydag ail sgwrs cyn lansio her y Theatr Unnos, pan oedd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn ‘Beth yw theatr?’. Bu pedwar perfformiwr dawnus, Eddie Ladd, Carwyn Blayney, Naomi Seren a Mari-Elen Mathias yn gweithio drwy’r nos yn theatr ar greu darn o theatr newydd, unigryw gan gyflwyno darn storïol, bachog a hardd i gynulleidfa fore Sadwrn. Arhosodd criw ifanc o Ysgol Uwchradd Aberteifi ar ôl perfformiad y Theatr Unnos i gyfrannu mewn gweithdy byrfyfyr a ysbrydolwyd gan y darn theatr unnos. Coronwyd yr Ŵyl Ddrama gyda noson Hi Hi Hi, gyda pherfformiadau cerddorol, dramatig a stand-yp gan Sara Davies, Elliw Dafydd a Tess Price, cefnogwyd Hi Hi Hi mewn partneriaeth rhwng Talent mewn Tafarn a Tafarn y Vale.”

Mae Theatr Felinfach yn theatr brysur, llawn bwrlwm yng nghalon Ceredigion. Beth am ymweld â’i gwefan i ddod o hyd i ddigwyddiadau a pherfformiadau sydd i ddod: Theatr Felinfach 

22/03/2023