Mae ARFOR - Rhaglen gwerth £11 miliwn ac sydd â nod clir o greu gwaith yn lleol a chryfhau’r iaith Gymraeg ledled siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin - nawr yn gwahodd ceisiadau i’w cronfa Cymunedau Mentrus.

Dyma ail wedd y Rhaglen arloesol hon a ddaw fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Yn dilyn llwyddiant rhan gyntaf y Rhaglen rydym nawr yn cyhoeddi cyfleoedd am gefnogaeth drwy ffrwd waith Cymunedau Mentrus. Dyma gyfle i gwmnïau, mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol geisio am nawdd hyd at Fawrth 2025 er mwyn cefnogi cymunedau o fewn cadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu yn economaidd, ac yn sgil hynny atgyfnerthu’r iaith. I ddysgu mwy ac i wneud cais ewch i dudalen ARFOR ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: ARFOR Ceredigion

Mae sawl agwedd i gronfa ARFOR a ffrwd gwaith Cymunedau Mentrus; yn gyntaf mae’n annog creu amrywiaeth o swyddi er mwyn rhoi cyfle i bobl a theuluoedd ifanc allu aros a gweithio yn eu cymunedau cynhenid. Wrth wneud hyn, mae’r gronfa hefyd yn ymateb i’r perygl posib o golli adnoddau a gwasanaethau lleol allweddol o’r cymunedau hyn. Mae’r gronfa hefyd yn galw ar fentrau masnachol a chymdeithasol i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, a fydd, nid yn unig yn ychwanegu gwerth at eu nwyddau neu wasanaethau, ond hefyd yn cynnal naws Cymreig cymunedau Rhaglen ARFOR.

Mae’r Rhaglen yn annog ymgeiswyr ledled y pedair Sir i fwrw iddi mewn modd creadigol ac arloesol, gan ddatblygu cynlluniau fydd yn sbarduno busnesau Cymreig newydd, yn gwarchod a chreu rhagor o swyddi lleol a thrwy hyn oll yn sefydlu mwy o ofodau Cymraeg o fewn y cymunedau. Bydd angen i’w cynlluniau ganolbwyntio ar rinweddau unigryw eu cymunedau, gan gynnwys y Gymraeg, a chylchdroi arian yn eu hardal er mwyn cynyddu faint o gyfoeth sy’n aros yn lleol.

Ers ei lansio gyntaf yn 2019 mae Rhaglen ARFOR wedi creu 238 o swyddi cyfwerth â rhai llawn amser, wedi creu 89 swydd rhan amser, ac wedi darparu cymorth i dros 150 o fusnesau. Un o’r busnesau hynny yw Llaeth Jenkins. Dywedodd Eifion Jenkins, un o’r brodyr sy’n berchen ar Llaeth Jenkins: ‘Roedd y gefnogaeth a gawsom wrth Gronfa Arloesi ARFOR yn amhrisiadwy wrth i ni gychwyn menter newydd fel rhan o'n busnes. Roedd y broses ymgeisio a hawlio yn hwylus, ac mae'r rhaglen wedi sicrhau twf sylweddol i'n
busnes ac wedi ein galluogi i gyflogi mwy o weithwyr lleol, Cymraeg i'n gweithlu.’

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Ceredigion: ‘Mi fydd rhaglen Cymunedau Mentrus ARFOR yn gyfle gwerthfawr iawn i helpu busnesau a chymunedau yng Ngheredigion i ddatblygu cyfleoedd i greu swyddi a gyrfaoedd i bobl yma yng Ngheredigion. Fe welwyd nifer o syniadau arloesol yn sgil rhaglen gyntaf ARFOR, ac mae’r mentrau hynny dal yn ffynnu a thyfu.

‘Mae’n hanfodol bod yna gydweithio iach rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol i greu’r amodau i alluogi twf economaidd fydd yn rhoi’r dewisiadau i bobl yng Ngheredigion wrth greu gyrfaeodd da. Mi fydd Cynllun Cymunedau Mentrus, fel rhan o raglen ARFOR, yn helpu i wireddu hynny.’

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: ‘Mae’n newyddion ardderchog bod gwaith ARFOR yn parhau a bod y rhaglen nawr yn gwahodd ymgeiswyr i’w Chronfa Cymunedau Mentrus. Trwy
gydweithio gyda’n partneriaid llywodraeth lleol, rydym eisiau cefnogi cymunedau sy’n gadarnleoedd i’r Gymraeg wrth iddynt fynnu yn economaidd a chyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Edrychwn ymlaen at weld syniadau arloesol iawn fel rhan o ail wedd y rhaglen.’

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Cefin Campbell: ‘Rwy'n croesawu'r cynnydd ar gyflawniad ymarferol rhaglen ARFOR fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Rwy'n annog cwmnïau a sefydliadau o bob rhan o siroedd ARFOR i gymryd rhan ac edrych ar y Gronfa Cymunedau Mentrus. Bydd y gronfa yn helpu i hybu entrepreneuriaeth a thwf busnes ac mae’n rhan o’n hymgyrch i dyfu’r economi leol a’r Gymraeg gyda’n gilydd.’

Mwy o wybodaeth ac ymgeisio

Bydd ail wedd y Rhaglen yn rhedeg hyd at Fawrth 2025 ac yn ogystal â Cymunedau Mentrus bydd pedair ffrwd waith arall sef Llwyddo’n Lleol; Cronfa Her ARFOR; Cryfhau Hunaniaeth a’r gwaith Monitro, Gwerthuso a Dysgu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i rhaglenarfor.cymru neu ebostiwch gwybodaeth@rhaglenarfor.cymru. I wneud cais, ewch i dudalen ARFOR ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: ARFOR Ceredigion

27/03/2023