Bydd casgliadau gwastraff ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc yn newid yng Ngheredigion.

Gyda'r bwriad o ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i drigolion, rydym yn newid trefniadau casglu gwastraff ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc o Pasg 2023.

Dros gyfnod y Pasg rydym yn bwriadu casglu gwastraff fel a ganlyn:

Diwrnod Casglu Arferol

 

Casglu ar

Dydd Gwener y Groglith, 7 Ebrill 2023

Dim newid

Dydd Gwener y Groglith, 7 Ebrill 2023

Dydd Llun Pasg, 10 Ebrill 2023

Symud i

Dydd Sadwrn Pasg, 8 Ebrill 2023

Gofynnir i drigolion rannu’r wybodaeth mor eang â phosib gyda chymdogion, teulu, ffrindiau a chymunedau ar draws Ceredigion a all gael eu heffeithio.

Y bwriad yw mabwysiadu’r dull yma o weithio ar gyfer y Gwyliau Banc sy’n syrthio ar ddydd Llun ym mis Mai a mis Awst. Yn sgil hyn bydd y casgliadau gwastraff sydd wedi eu rhaglennu ar ddydd Llun yn cael eu casglu ar y dydd Sadwrn blaenorol.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Rydym yn adolygu’n barhaus ein dull o ddarparu ein gwasanaethau gyda’r bwriad o roi’r gwasanaeth gorau posib i’r cyhoedd gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni. Mae casgliadau gwastraff ar Ŵyl y Banc yn hanesyddol wedi bod yn broblematig ac wedi cynnig heriau.

“Yn ystod 2023 ein bwriad yw dod â chasgliadau a drefnwyd ar gyfer Dydd Llun Gŵyl y Banc ymlaen i'r dydd Sadwrn blaenorol. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi gwell cyfle i ni sicrhau’r adnoddau sydd eu hangen arnom i ddarparu’r gwasanaethau ac yn rhoi cyfle i adfer yn fuan wedyn os na allwn gasglu ar y diwrnod a drefnwyd. Byddwn yn ymdrechu i rannu’r wybodaeth mor eang â phosib ac, fel bob amser fel rhan o Caru Ceredigion, hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus.”

Cadwch olwg ar ein gwefan am y diweddaraf o ran casgliadau gwastraff www.ceredigion.gov.uk/diweddariadaucasgliadaugwastraff

Dros gyfnod y Pasg bydd oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llambed a Chilmaenllwyd fel a ganlyn:

Diwrnod

Oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llambed a Chilmaenllwyd dros gyfnod y Pasg

Dydd Gwener y Groglith, 7 Ebrill 2023

Ar Gau

Dydd Sadwrn Pasg, 8 Ebrill 2023

10:00-15:00

Dydd Sul Pasg, 9 Ebrill 2023

10:00-15:00

Dydd Llun Pasg, 10 Ebrill 2023

10:00-15:00

Bydd dim newid i oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros gyfnod y Pasg.

Diwrnod

Oriau agor Safle Gwastraff Cartref  Rhydeinon dros gyfnod y Pasg

Dydd Gwener y Groglith, 7 Ebrill 2023

Ar Gau

Dydd Sadwrn Pasg, 8 Ebrill 2023

10:00-17:00

Dydd Sul Pasg, 9 Ebrill 2023

10:00-17:00

Dydd Llun Pasg, 10 Ebrill 2023

Ar Gau

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor drwy ffonio 01545 570881 neu ewch i’r wefan www.ceredigion.gov.uk

27/03/2023