Bydd menter Gwanwyn Glân Cadw Cymru’n Daclus yn cael ei chynnal rhwng 17 Mawrth a 02 Ebrill eleni.

Fel rhan o Caru Ceredigion, mae’r Cyngor yn awyddus iawn i weithio gydag unigolion a grwpiau sydd am gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd lleol a’u cefnogi yn barhaus a thrwy gydol y flwyddyn yn hyn o beth. Gallwn gynorthwyo drwy ddarparu rhai eitemau sylfaenol o offer gan gynnwys codwyr sbwriel, cylchoedd a sachau, yn ogystal â gwneud trefniadau ar gyfer casglu a chael gwared ar y deunyddiau a gesglir.

Cyn ymgymryd ag unrhyw waith codi sbwriel, mae'n hollbwysig bod y cyhoedd wedi darllen yr wybodaeth sydd ar gael ar wefan Cadw Cymru’n Daclus o ran iechyd a diogelwch, pa asesiadau risg sydd angen eu gwneud, a’r arferion da. Bydd hyn yn helpu i sicrhau diogelwch pawb tra byddant yn gwneud y gweithgaredd. Dylid cofio hefyd fod unrhyw un sy'n casglu sbwriel yn gwneud hynny dros eu hunain a'u cymunedau ac nid ar ran y Cyngor Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Y gwanwyn yw’r adeg perffaith i fynd allan am dro a gwneud ein rhan i gadw Ceredigion yn daclus. Rydym yn falch iawn o gefnogi ymgyrch Gwanwyn Glân Cadw Cymru’n Daclus, am ei fod yn cyd-fynd cystal ag egwyddorion Caru Ceredigion. Gan ein bod yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ym mis Mawrth hefyd, mae'n amserol i ni fyfyrio ar un o ddywediadau enwocaf ein nawddsant o ran 'gwneud y pethau bychain'. Trwy wneud y pethau bychain, gallwn wneud gwahaniaeth mawr yn y cyd-destun hwn.”

Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i clic@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881 am ragor o wybodaeth.

Mae mwy o wybodaeth am ymgyrch Gwanwyn Glân a gwaith arall a wneir gan Cadw Cymru’n Daclus ar gael ar eu gwefan: Cadw Cymru'n Daclus 

03/03/2023