Mae banciau bwyd Ceredigion yn parhau i weld cynnydd mawr yn y galw a dim ond bron yn gallu ymdopi oherwydd haelioni rhoddion y cyhoedd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn rhoi cyfraniadau bwyd, ond mae rhai hefyd yn rhoi arian.

Mae’r rhoddion ariannol yn helpu i ychwanegu at gyflenwadau, yn enwedig cyflenwadau o gynnyrch ffres a pharseli bwyd. Mae hefyd angen arian i dalu am gostau tanwydd – er mwyn gwresogi adeiladau ac ar gyfer cerbydau, sy’n angenrheidiol wrth gasglu, ac weithiau dosbarthu, parseli bwyd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gallu cyfrannu at y gwaith da hwn trwy ddosbarthu £30,000 o Gronfa Atal Digartrefedd Dewisol (a ddarperir gan Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol). Mae hyblygrwydd y cyllid a roddir i Awdurdodau Lleol wedi galluogi’r Cyngor i ddarparu cyfraniad ariannol at y banciau bwyd a sefydliadau eraill sy’n darparu prydau post am brisiau rhad neu am ddim yn y gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’r gronfa hon yn bennaf i gefnogi pobl i allu talu eu gwariant cartref sylfaenol a lleihau’r risg o fynd yn ddigartref. Mae cefnogi banciau bwyd yn ffordd arall o gwtogi ar y biliau dyddiol mae pobl yn eu hwynebu yn y cyfnod anodd iawn hwn. Rwy’n falch iawn gweld yr arian hwn yn mynd at achos mor dda.”

Dywedodd cynrychiolydd ar ran Banc Bwyd Llambed: “Ar ran y nifer o bobl a theuluoedd sy’n derbyn cymorth, hoffai Banc Bwyd Llambed ddweud diolch. Mae yna alwadau cynyddol am gymorth gan bobl ar hyn o bryd. O ganlyniad i'ch haelioni chi ac eraill rydym yn gallu darparu cymorth ychwanegol i bobl yn yr ardal.”

Er eu bod yn gallu rheoli’r galwadau am fwyd, mae Banciau Bwyd yn nodi y gallent fanteisio ar ragor o wirfoddolwyr i helpu i sortio a dosbarthu’r bwyd. Os gallwch chi helpu mewn unrhyw ffordd, mae rhestr o’r holl fanciau bwyd yng Ngheredigion ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: Banciau Bwyd Ceredigion 

31/03/2023