Bydd Cyngor Chwaraeon Ceredigion yn ail-lansio rhaglen o gymorth ar gyfer clybiau chwaraeon ar hyd a lled y sir.

I ddathlu’r ail-lansiad, bydd y Cyngor Chwaraeon yn hepgor y ffi aelodaeth arferol sy’n golygu y bydd clybiau yn gallu mwynhau y rhaglen am ddim hyd at ddiwedd 2023.

Mae Cyngor Chwaraeon Ceredigion yn gorff cyfansoddiadol sy'n cynnwys cynrychiolwyr chwaraeon cymunedol yng Ngheredigion sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol i ddatblygu chwaraeon yn y Sir.

Cyn y pandemig, roedd y Cyngor Chwaraeon yn darparu cymorth i bron 100 o glybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol cysylltiedig yng Ngheredigion ac yn awr yn awyddus i ailgydio yn y gwaith.

Bydd y Cyngor Chwaraeon, ar y cyd â Ceredigion Actif, yn darparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys gwybodaeth am gyfleoedd cyllido, mynediad at gyngor arbenigol a gwybodaeth am chwaraeon, ynghyd â chyfraddau is ar gyfer cyrsiau Diogelu Plant a Chymorth Cyntaf. Mae’r Cyngor Chwaraeon hefyd yn darparu cymorth i glybiau wrth iddynt geisio cryfhau y nifer sy’n gwirfoddoli gyda’r clybiau.

Yn ogystal â hyn i gyd mae’r Cyngor Chwaraeon yn cynnal Gwobrau Chwaraeon blynyddol Ceredigion a Chynllun Cerdyn Aur ar gyfer pobl sy’n cynrychioli eu gwlad mewn chwaraeon, yn ogystal â ‘Gwobrau ar gyfer Plant Talentog’ sy’n dangos addewid.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau i Gwsmeriaid: “Mae Cyngor Chwaraeon Ceredigion yn grŵp hynod o bwysig i gefnogi clybiau cymunedol ar hyd a lled Ceredigion. Chwaraeon cymunedol a chlybiau llawr gwlad yw asgwrn cefn datblygiad chwaraeon ac y mae nhw angen bob cefnogaeth posib a’r gobaith yw bod y Cyngor Chwaraeon yn gallu darparu hynny a rhoi cyfle i glybiau ddysgu oddiwrth ei gilydd wrth rannu profiadau a gwybodaeth.”

Gall clybiau sy’n cofrestru gyda Chyngor Chwaraeon Ceredigion fynd i'r Cwrs Diogelu ar-lein sy’n cael ei gynnal cyn hir ar 18 Ebrill 2023, a hynny am bris gostyngol o £20 y pen.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Ceredigion Actif: Ceredigion Actif. Gall clybiau fynegi diddordeb trwy gysylltu â Stefano Antoniazzi: stefano.antoniazzi@ceredigion.gov.uk

 

14/03/2023