Yn dilyn y saib clo Covid, mae talent ifanc y Gymdeithas Bêl-droed Ysgolion Ceredigion yn ôl yn chwarae pêl-droed cystadleuol.
Profwyd diddordeb mawr yn nhreialon 2021 a chofrestrwyd dros 100 o fechgyn a merched Ysgolion Ceredigion yn nhimoedd bechgyn D12, 13, 14, 15 a merched D13 a 15 y Gymdeithas, gogyfer Cystadleuaeth Cymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru 2021-22.
Chwaraeodd pob tîm yn dda iawn yng Ngrŵp y De Orllewin gyda'r ddau dîm merched yn agos iawn i fynd drwyddo i’r gemau terfynol.
Llongyfarchiadau i dimau bechgyn D13 a D15 am gyrraedd y rownd gyn-derfynol lle orffenodd eu tymor yn erbyn Cymdeithas Pêl-droed Ysgolion Abertawe a Fflint; y ddau dîm a aeth ymlaen i gipio pencampwriaeth Cymru yn y gemau terfynol.
Hoffai Pwyllgor Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Ceredigion ddiolch i'r holl hyfforddwyr, rheolwyr tîm, chwaraewyr a rhieni am eu cefnogaeth ymroddedig dros y tymor.
Hoffent hefyd ddiolch i'w noddwyr 2021-22 am gefnogi talent ifanc i ennill cyfleoedd chwaraeon gwerthfawr yng Ngheredigion: Searivers Leisure Caravan Park, Ynyslas, LAS Recycling Ltd, Llambed, Ffigar – Cit Chwaraeon/Dillad Ysgol, Aberystwyth, GLP Evans Ltd, Tociwr Traed, Talgarreg, West Coast Cleaning & Linen Services Ltd and Owen Miles Carpentry & Roofing.
Mae taith y Gymdeithas Bêl-droed Ysgolion Ceredigion yn parhau gyda Threialon Tymor 2022-23 dros yr wythnosau nesaf.
Caiff dyddiadau’r treialon oll a ffurflenni cofrestru eu gohebu drwy Ysgolion Uwchradd Ceredigion a’u gwefan Facebook, @CPDYC maes o law.
16/06/2022