Gan fod disgwyl i fwy o bobl ymweld â threfi Ceredigion dros yr wythnosau nesaf a misoedd yr haf, mae angen cyflwyno newidiadau i sicrhau bod ein strydoedd yn ddiogel i bawb drwy ganiatáu i bobl gynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr ar bob adeg.
Mae cyflwyno newidiadau dros gyfnod y Pasg wedi golygu y bydd rhai diwygiadau'n cael eu gwneud dros yr wythnosau nesaf.
Yn dilyn adolygiad, bydd cam cychwynnol y Parth Diogel (Cam 2) ar gyfer Aberteifi yn cael ei ddiwygio i Gam 2a, gyda Stryd Morgan a’r Strand yn parhau i fod yn system unffordd (y trefniant presennol heb ei newid).
Bydd cau ffyrdd sy'n effeithio ar y Stryd Fawr yn Aberteifi yn dechrau cyn penwythnos Gŵyl y Banc ddiwedd mis Mai. Bydd y ffyrdd ar gau rhwng 12pm a 4pm bob dydd.
Yn rhan o Gam 2a, mae’r gwaith canlynol yn cael ei wneud:
- Gosod marciau ffordd ar gyfer pob man parcio i’r anabl ar hyd y Stryd Fawr a Phendre
- Gosod marciau ffordd ar gyfer mannau llwytho gyferbyn â siop gigydd Dewi James
- Cyflwyno bolardiau adlewyrchol newydd i gymryd lle y rhwystrau coch/gwyn. Bydd hyn yn caniatáu masnachwyr i weithredu ar y ffordd yn unol â’u trwydded. Bydd y llwybrau troed llydan a fydd yn rhan o’r ardaloedd masnachu ar y ffordd yn cael eu codi i’r un lefel â’r llwybrau troed cyfagos i greu ardal gwastad a hygyrch ar gyfer cerddwyr.
- Gosod rhwystr igam-ogamu y tu allan i Westy’r Llew Du i arafu llif y traffig
- Gweithredu system un ffordd ar hyd Rhes y Coleg i alluogi mynediad at Lôn Siawnsri
- Gwrthdroi’r system un ffordd ar hyd Stryd y Santes Fair
- Cau Pwllhai ar gyfer masnachu trwyddedig ac er diogelwch cerddwyr
Mae map o Aberteifi a'r holl wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Parthau Diogel ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: Parthau Diogel
04/05/2021