Beth yw Cynorthwyydd Personol?
Gellir cyflogi Cynorthwyydd Personol gan ddefnyddio arian Taliad Uniongyrchol er mwyn helpu i gynorthwyo a galluogi dinasyddion.
Gall eich rôl fod yn amrywiol, dyma rai syniadau ynghylch y ffordd y bydd gofyn cael cymorth efallai:
- Cymorth i fanteisio ar wasanaethau e.e. gweithgareddau cymdeithasol a hamdden
- Hyrwyddo annibyniaeth
- Cymorth wrth baratoi prydau a chyflawni tasgau o gwmpas y tŷ
- Manteisio ar gyfleusterau a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
Nod y rôl yw cynorthwyo dinasyddion i gyflawni eu nodau.
Gall dinasyddion sy'n cael Taliadau Uniongyrchol ddewis recriwtio CP. Mae hyn yn golygu y bydd y dinasyddion sy'n dewis gwneud hynny yn eich cyflogi chi. Bydd ganddynt yr un cyfrifoldebau ag y bydd gan unrhyw gyflogwr arall. Byddant yn defnyddio darparwr cyflogres hefyd er mwyn sicrhau bod eich taliadau Talu wrth Ennill yn gywir ac yn cydymffurfio â gofynion CThEM.
Mae bod yn gyflogedig yn golygu y bydd gennych chi yr un buddion ag y bydd gan unrhyw gyflogai arall, fel yr hawl i gael gwyliau blynyddol, absenoldeb mamolaeth ac absenoldeb salwch.
Yn aml, ceir hyblygrwydd gyda rolau o'r fath, ac mae'r hyblygrwydd hwn yn gweithio ddwy ffordd.
Byddwch yn cael y cyfle i fanteisio ar hyfforddiant hefyd a chymwysterau er mwyn datblygu eich dysgu a'ch gwybodaeth ymhellach.
Yn gyntaf, nid yw pob dinesydd yn chwilio am CP sy'n meddu ar brofiad ffurfiol o gyflawni rolau tebyg. Mae'n debygol y byddwch wedi cynorthwyo rhywun yn eich bywyd chi, ac mae'r rôl hwn yn cynnig profiad y gall eraill gael budd ohono.
Mae hyfforddiant ar gael ac yn rhywbeth sy'n cael ei annog yn fawr. Efallai y bydd rhywfaint o'r hyfforddiant yn orfodol, ond bydd cyfleoedd i sicrhau hwn cyn cychwyn neu wrth i chi ddysgu yn eich rôl.
Beth nesaf…
Hysbysebir swyddi gwag presennol ar wefannau amrywiol ac mewn mannau amrywiol, e.e.:
- Tudalen Swyddi Gwag CP Cyngor Sir Ceredigion
- Chwiliwch am swyddi
- Canolfan Gwaith
- Cyfryngau Cymdeithasol
Cysylltwch â'r tîm Taliadau yn uniongyrchol i drafod y swyddi gwag presennol.
Am ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni at tu_dp@ceredigion.gov.uk neu drwy Clic ar 01545 570881