Gwasanaethau Cymorth sy'n Ymwneud â Thai
Beth yw Cymorth Tai?
Os ydych yn ddigartref neu â risg uchel o ddod yn ddigartref, mae Cymorth Tai yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi trigolion Ceredigion , er mwyn cynnal eich tenantiaeth a byw’n annibynnol yn y gymuned. Mae Cymorth Tai wedi’i llunio i’ch cynorthwyo i ddelio ag argyfwng a datblygu eich sgiliau a’ch hyder i gymryd rheolaeth o’ch bywyd a gwneud eich penderfyniadau eich hun
“Cymorth Tai” yw cynllun Ceredigion wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gomisiynu gan Gyngor Sir Ceredigion, gan ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth ledled y sir wrth sefydliadau amrywiol sydd â phrofiad yn cefnogi pobol mewn modd cadarnhaol a’r anghenion gwahanol sydd ganddynt.
Pwy sy’n gallu derbyn Cymorth Tai?
Mae Cymorth Tai ar gael i drigolion Ceredigion sy’n 16 oed a throsodd, sy’n byw mewn unrhyw fath o lety, yn arbennig pobol sy’n ddigartref o dan unrhyw amgylchiadau neu mewn perygl o ddod yn ddigartref.
Rydym yn cefnogi unigolion, teuluoedd a gofalwyr sy’n ymrwymo i gyd-weithio â ni.
Gall Cymorth Tai eich helpu gydag amrywiaeth o anghenion a phroblemau. Efallai y bydd angen cymorth arnoch oherwydd:
- Eich bod yn symud i lety newydd neu lety heb gefnogaeth
- Eich bod yn cael anawsterau gyda’ch llety presennol ac efallai mewn perygl o golli’ch cartref
- Eich bod yn gadael yr ysbyty, y carchar neu gofal ac angen cefnogaeth i fyw’n annibynnol
- Eich bod yn ddigartref ac yn byw mewn llety dros dro
- Eich bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl
- Bod gennych broblemau gyda chyffuriau neu alcohol
- Eich bod yn ffoi rhag trais a cham-drin domestig
Pa gefnogaeth y gallaf i ei gael i’m helpu?
Gallwn eich helpu i ddelio â sawl agwedd ar denantiaeth fel:
- Sefydlu a setlo i mewn i'ch cartref newydd
- Rhoi gwybod am atgyweiriadau, datrys problemau rhent a thenantiaeth eraill
- Rheoli eich arian, biliau, dyledion a chyllideb
- Llenwi ffurflenni ac ysgrifennu llythyrau
- Mynediad budd-daliadau lles
- Trefnu apwyntiadau a chyfarfodydd
- Cael mynediad at wasanaethau eraill a allai fod o gymorth
- Datblygu sgiliau bywyd fel bwyta'n iach, coginio, glanhau a siopa
- Hyfforddiant, addysg a chyflogaeth
- Mynediad i weithgareddau hamdden, clybiau a rhwydweithiau
- Gwneud cyfraniad cadarnhaol i'ch cymuned leol
- Cadwch mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau
Sylwch nad yw Cymorth Tai yn gallu darparu gofal personol na gwasanaethau domestig, ac nid yw'n cynnig gwasanaeth cludiant na siopa chwaith.
Sut ydw i'n gwneud cais am Gymorth Tai?
Gallwch chi neu rywun ar eich rhan wneud cais am gymorth mewn sawl ffordd;
- Gallwch lenwi'r ffurflen gais cymorth tai ac anfon e-bost at cymorthtai@ceredigion.gov.uk
neu
- Ffoniwch ein canolfan gyswllt (Clic) a fydd yn cynorthwyo gyda'ch ymholiad ar 01545 570881
Os ydych yn dymuno gwneud cais am Dai Cymdeithasol, gallwch wneud hyn drwy ein porth ar y wefan Opsiynau Tai Ceredigion.
Beth sy'n digwydd ar ôl cael eich cyfeirio
Bydd rhywun o'r tîm Porth Cymorth Tai, neu un o'n hasiantaethau partner yn cysylltu â chi i archwilio'ch sefyllfa ymhellach.
Pa gymorth nad ydyw’n cael ei roi?
Nid yw’r rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu gwasanaeth yn y cartref na gofal personol, ac nid yw ychwaith yn darparu trafnidiaeth na gwasanaeth siopa.
Ni fwriedir cymorth fel gwasanaeth cymorth cyffredinol , y bwriad yw cynorthwyo pobl i ddatblygu sgiliau i wneud tasgau yn y cartref yn annibynnol neu i gael mynediad at wasanaethau eraill.
Pryd neu pam y byddai’r cymorth yn dod i ben?
Bydd y cymorth yn dod i ben:
- Os byddwch chi neu unrhyw un yn y tŷ adeg yr ymweliad yn troi'n ymosodol tuag at y staff cymorth neu eraill
- Os byddwch chi neu unrhyw un yn y tŷ adeg yr ymweliad dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau a'u bod yn methu â chwblhau amcanion yr ymweliad
- Os bernir bod perygl i ddiogelwch y staff cymorth
- Os byddwch yn gwneud pethau'n anodd iddynt fel nad ydynt yn gallu cyflawni eu rôl, drwy gynnwys pobl eraill neu drwy ymddwyn yn amhriodol
- Os na fyddwch yn barod i fod yn rhan o’r cymorth a roddir
- Os bydd yr holl anghenion cymorth sy’n gysylltiedig â thai ar eich cynllun cymorth wedi cael eu bodloni
Beth ddylwn ei wneud os nad wyf yn fodlon â’r gwasanaeth?
Os nad ydych yn hapus â'r modd y mae pethau yn mynd, mae'r opsiynau canlynol ar gael:
Efallai y byddwch am siarad yn y lle cyntaf â'r gweithiwr cymorth a allai datrys pethau yn gyflym
- Os bydd y broblem yn ymwneud â gweithiwr cymorth neu os bydd yn well gennych beidio â siarad am hynny, gallwch siarad â Rheolwr y darparwr cymorth a fydd yn ystyried eich pryderon ac yn cymryd camau angenrheidiol i ddatrys pethau
- Os byddai'n well gennych, gallwch siarad ag unrhyw aelod o dîm y Porth Cymorth Tai
- Os yw eich problem yn ymwneud â thîm y Porth Cymorth Tai neu os yw'n well gennych beidio â siarad â nhw, gallwch gysylltu â ni trwy'r tudalen Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion
Faint mae'r gwasanaeth yn ei gostio?
Ystyrir bod rhan fwyaf y cymorth a ddarperir drwy'r rhaglen Cefnogi Pobl yn gymorth dros dro ac felly ni chodir tâl ar ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Mae tâl yn dal i fod ynghlwm wrth y gwasanaethau hirdymor eraill megis pob llety gwarchod, larymau cymunedol yr awdurdod lleol a chartrefi grwpiau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae cost y cymorth yn dibynnu ar y math o wasanaethau a maint y cymorth. Mae’r gallu i dalu cost taliadau cymorth ar gyfer y cynlluniau hyn yn destun prawf modd, felly mae’n bosib y bydd y Grant Rhaglen Cefnogi Pobl yn ariannu hyn.