Maethu
Ni yw Maethu Cymru Ceredigion. Rydym yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu gan Awdurdodau Lleol Cymraeg, ac yn gweithio gyda’ gilydd i adeiladu gwell dyfodol i’n plant lleol. Tîm Maethu Cymru Ceredigion yw eich darparwr a chefnogaeth maethu lleol.
Fel sefydliad nid-er-elw, rydym yn ymroddedig i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth i helpu i greu dyfodol mwy disglair i blant lleol yn ardal Ceredigion. Rydym yn eu helpu i aros yn eu hamgylcheddau lleol cyfarwydd, pan fydd yn iawn iddyn nhw.
Mae gofalwyr maeth yn dod o amrywiol gefndiroedd ac yn meddu ar lefelau gwahanol o brofiad. Ni does angen profiad o ofalu ar ôl plant arnoch i ddod yn ofalwr maeth, ac rydym yn croesawu ymholiadau wrth bobl sydd yn sengl neu â phartner, sy’n gweithio neu’n ddi-waith.
Mae llawer o wahanol ffyrdd o faethu sy’n amrywio o faethu tymor hir a maethu tymor byr iawn (cyn lleied ag un wythnos y mis), mewn argyfwng neu leoliadau seibiant, ar gyfer plant a phobl ifanc o’i geni hyd at 18 oed. Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc yn dilyn eu pen-blwydd yn 18 i’w helpu a’u paratoi i fyw’n annibynnol.
Fel gofalwr maeth gyda Maethu Cymru Ceredigion, byddwch yn derbyn:
- Lwfans ariannol hael
- Lwfans ychwanegol ar benblwyddi a gwyliau crefyddol ynghyd â lwfans gwyliau blynyddol.
- Lwfans ychwanegol ar gyfer bod ar rota argyfwng.
- Lwfans gwasanaeth parhaus.
- Tîm ymroddedig o staff maethu profiadol ynghyd â chefnogaeth mentor Cyfoed Gofalwyr Maeth yng Ngheredigion
- Grwpiau Cymorth Lleol
- Sesiynau Lles misol lleol
- Gweithgareddau Teuluoedd Maethu Misol i’r teulu cyfan
- Dull unigol ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o ddysgu a datblygu, gyda hyfforddiant rheolaidd ar-lein ac mewn person.
- Cyfle a chefnogaeth i sicrhau cymhwyster Lefel 3 mewn Gofalu am Blant a Phobl Ifanc.
- Aelodaeth i’r Rhwydwaith Maethu
- Aelodaeth o gynllun CADW
- Aelodaeth tocyn hamdden ar gyfer Teuluoedd Maeth i gael mynediad i Hybiau Lles a Phyllau Nofio.
I gael gwybod mwy am faethu yng Ngheredigion, ewch i wefan Maethu Cymru Ceredigion.
Cysylltwch â Maethu Cymru Ceredigion
Cyfeiriad: Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA
Rhif Ffôn: 01545 570881
E-bost: clic@ceredigion.gov.uk