Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynllun Llety â Chymorth

Logo Llety a Chymorth Ceredigion

Allwch chi ddarparu lle diogel, cefnogol yn eich cartref i berson ifanc? Allwch chi arwain a mentora person ifanc i fyw'n annibynnol? Mae cynllun Llety â Chymorth Ceredigion yn chwilio am bobl i ddarparu llety ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed.

Wrth roi llety, byddwch chi yno i arwain y person ifanc a’u cefnogi i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw’n annibynnol. Gallent fod yn blant sy’n gadael gofal, methu byw gartref mwyach neu’n geisiwr lloches heb oedolyn. Byddwch yn cael eich paru gyda pherson ifanc penodol er mwyn sicrhau profiad llety da i bawb. Darperir hyfforddiant a chefnogaeth lawn.

Wrth roi llety i berson ifanc, ni fydd yn fudd iddyn nhw yn unig, ond hefyd i chi wrth i chi eu galluogi i feddu ar sgiliau bywyd a chynorthwyo pobl ifanc i fod yn barod wrth iddynt gamu allan i’r byd fel oedolyn. Efallai y byddwch yn ymwneud â chefnogi ac arwain person ifanc i fagu hyder mewn meysydd megis:

  • Mynediad at addysg
  • Coginio
  • Glanhau
  • Cyllidebu
  • Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Garddio a chynnal a chadw
  • Sgiliau cymdeithasol
  • Bod yno I wrando

Os ydych chi'n teimlo y gallech ddarparu llety neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut fydd hyn yn gweithio i chi, byddem wrth ein bodd i siarad â chi. Gwnewch wahaniaeth heddiw. Dechreuwch daith werth chweil. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Thîm Llety â Chymorth Cyngor Sir Ceredigion drwy'r manylion cyswllt canlynol:

Dolenni Gwefan Eraill